Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/156

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Calfinaidd, gelli yn hawdd ganfod lle beddrod yr hybarch Mr. Humphreys. Y mae y geiriau hyn yn gerfiedig ar gareg ei fedd

YMA Y CLADDWYD

Y PARCHEDIG RICHARD HUMPHREYS,

O'r Dyffryn.

Bu farw Chwefror y 15ed, 1863,

YN 72 MLWYDD OED.

Wedi gwasanaethu Duw yn Efengyl ei Fab am 43ain o
flynyddoedd.

Yr oedd hynawsedd ei dymher, ei synwyr cryf, a'i arabedd, yn tynu sylw pob gradd atto, ac yn
enill iddo gymeradwyaeth gyffredinol fel dyn, ac yr oedd ffyddlondeb, a chywirdeb tryloyw
ei fywyd gweinidogaethol, yn enill iddo y radd o Wr Duw a Gweinidog cymwys y Testament Newydd
yn nghydwybodau pawb a'u hadwaenent: Efe a fu ar hyd ei oes yn fab tangnefedd,
a gorphenodd ei yrfa mewn tangnefedd.

"Ac yr oedd iddo ef heddwch o bobparth iddo o amgylch."

"Meddyliwch am eich blaenoriaid y rhai a draethasant i chwi air Duw:
ffydd y rhai dilynwch, gan ystyried diwedd eu hymarweddiad hwynt."