PREGETHAU.
PREGETH I.
FFYRDD DUW YN UWCH NA FFYRDD DYN.
"Canys fel y mae y nefoedd yn uwch na'r ddaear, felly uwch yw fy ffyrdd i na'ch ffyrdd chwi, a'm meddyliau i na'ch meddyliau chwi." —ESAIAH lv. 9.
MAE yr Hollalluog yn claimio hawl i uwchafiaeth yn mhobpeth ar ei greaduriaid. Gall ddywedyd hyn wrth yr angelion, y cerubiaid, y seraphiaid, y thronau, yr arglwyddiaethau, a'r tywysogaethau, a'r meddianau, cystal ag wrthym ninau, trigolion y ddaear. Mae gan y rhai hyn eu ffyrdd: medr yr angelion esgyn a disgyn, a medr yr adar wneyd mwy na ni yn y ffordd hyny, ond ni fedrant hwy fyn'd yn uwch na chan uched a'r awyr—maent yn rhy drymion i ehedeg i'r awyr uchaf; ond y mae yr angelion yn medru myn'd i'r nefoedd o'r ddaear; ni fyddant yn hir chwaith, tramwyant y meusydd meithion o dawch sydd heb awyr ynddynt. Ond y mae ffyrdd Duw yn uwch na ffyrdd y rhai hyn, ac y mae ei feddyliau ef yn uwch na'u meddyliau hwynt. Pa faint mwy na ffyrdd ac na meddyliau dyn? Mae dyn wedi ei gaethiwo i'r hen ddaear yma,—gall ef ryw geisio at y bydoedd uwchben, ond ni wyr ryw lawer am danynt.
Yr ydym wedi dechreu bod ar y ddaear yma, ond nid ydym wedi bod mewn un byd oddiyma eto; yn unig gallwn dremio yn ein myfyrdodau ar ranau eraill o greadigaeth Duw. Ond creaduriaid y ddaear yma ydym ni— iddi y ganwyd ni, ei ffrwyth a'n magodd, ei chynyrch sydd yn ein cynal, ac y mae hi yn bur dirion wrthym; hefyd yn o fuan bydd mor garedig a lapio ein gweddillion