Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/159

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

marwol yn ei mynwes, wedi i ni fyn'd yn rhy lygredig ein gwedd, ag y dywed ein perthynasau agosaf, "Cleddwch ein marw allan o'n golwg." Ond y mae ffyrdd Duw yn ffyrdd y dylid cydnabod eu bod yn uwch na'n ffyrdd ni; dylem yn mhob modd a man gydnabod hyny. Yr oedd un o'r duwiolion dan ysprydoliaeth yn dyweyd, "Nid oes fel tydi yn mysg y duwiau, o Arglwydd, na gweithredoedd fel dy weithredoedd di." Mae gwaith pawb yn dangos pa fath un yw. Yr ydych yn gwybod o'r goreu pan weloch nyth yr aderyn mai efe a'i gwnaeth, er nad oedd o ddim yno nac yn ehedeg o hono. Byddwn yn adwaen pawb i ryw fesur wrth eu gwaith. Y mae rhai creaduriaid a wnant dai go ryfedd—beavers—yn curo rhyw bolion i'r ddaear, meddant, a'u heilio â gwrysg, a'u plastro â chlai, a gwneyd rhyw fath o lofftydd ynddynt, ond digon hawdd. gwybod mai y beaver a'u gwnaeth, dyna ei ffordd: felly y mae gweithredoedd dyn yn profi yn bur eglur mai yntau fu yno. Pe digwyddech wneyd siwrnai fawr i gyrion pell y ddaear, a chael eich bwrw ar ryw ynys, yr hon oedd yn annghyfaneddol, am a wyddech chwi; pe buasech yn gweled y peth hyn ac arall, ac yn eu mysg hen fasged wedi haner pydru, buasech yn gweled yn y fan fod dyn wedi bod yno; buasai ol erfyn ar hono, ac ni fedr un creadur ei ddefnyddio ond dyn: ond pe gallasech weled watch, gallasech weled, nid yn unig fod yno ddyn, ond dyn wedi ei wareiddio, a'i ddysgu mewn celfyddyd. Felly ffyrdd Duw ; y maent nid yn unig yn profi ei fod Ef, ond yn profi ei fod yn uchel iawn—yn annhraethol ddyrchafedig uwchlaw pawb o'i greaduriaid. Mae gan ddyn ei ffyrdd—mae i Dduw ei ffyrdd, ond y mae ffyrdd Duw yn uchel iawn, a ffyrdd dyn yn isel o'u cymharu a'i eiddo Ef. Dyna un gwahaniaeth mawr sydd rhwng ffyrdd Duw a ffyrdd dyn, y mae gair Duw yn effeithio pob peth. Dyna y dull mawreddog a gawn gan Moses yn adrodd hanes creadigaeth y byd, i Dduw ddywedyd, "Bydded, ac felly y bu." Galwodd y bydoedd mawrion i fod a dyma hwy yn dywedyd, "Wele ni, canys gelwaist arnom." Mae dynion wedi bod yn demandio ac yn dwrdio yr elfenau, ond nid oeddynt yn meindio mo ddynion. Nid ydyw deddfau mawr y nefoedd ddim yn hidio beth a ddywed dyn; ond y mae gwneyd yn nweyd Duw—mae yn gorchymyn, a hyny yn sefyll. Nid oes dim troi yn ol ar ei eiriau; pa sut y