o hono, na chael amgyffred am dano; ond y mae y Duw anfeidrol yn heigio bywyd mewn miliynau o greaduriaid bob mynyd o'r dydd. Mae gan lawer iawn fywyd yn y byd hwn: nid dyn yn unig sydd yn byw, nid yr anifail yn unig; ond y mae pryfaid, bwystfilod, a chwilod, beth afrifed o amrywiaethau yn bod, ond y maent oll wedi derbyn eu bywyd gan Dduw. Ni fedr dyn nac angel, heb gymorth gan Dduw, wneyd cymaint a bywyd mewn gwybedyn. Rhywbeth ydyw bywyd na ŵyr neb beth ydyw ond Duw, ac na fedr neb ei roddi ond Duw.
Hefyd, mae cynydd gweithredoedd Duw yn dangos fod ei ffyrdd yn uwch na'n ffyrdd ni. Y mae creadigaeth Duw yn cynyddu tan ei dwylaw. A ydyw y ddaear yn myned yn fwy ag yn drymach na phan ei crewyd, nis gwn, ond pa fodd bynag y mae yn waith llaw Duw—y mae cynydd rhyfeddol ar y creaduriaid sydd ynddi—dyn, yn feibion ac yn ferched. Yr ydym rhyw dair rhan o bedair o honom wedi cyrhaedd ein llawn faint, ond yr ydym wedi bod yn fychain iawn daethost i'r byd ar y cyntaf yn egwan fychan ŵr,—cynyddu a ddarfu i ti i ddyfod i'r maint yma. Edrychwn ar y planhigion, y mae cynydd wedi bod arnynt hwy y dderwen fawr gauadfrig, nad all dau neu dri o ddynion gyrhaedd o'i hamgylch, gellwch fod yn siwr y gallasai bachgen oes neu ddwy yn ol, ei thori yn wialen gyda'i gyllell fach; pa fodd yr aeth mor fawr? Gwaith Duw yw'r achos—cynyddu a wnaeth. Yr Elephant—ychydig iawn unwaith fuasai yn ei ladd―ni fuasai perygl i'r dyn gwanaf ei gyfarfod; ond cynyddu ddarfu iddo nes myn'd yn dunelli o bwysau. Y llew a'r teigr sydd yn greulawn a chryf—y maent hwythau wedi bod yn fychain iawn. Felly hefyd y lefiathan anferth yn mesur o haner cant i gant o droedfeddi o hyd, y mae yn fawr iawn, ond bu yn fychan iawn. Y mae yr hen ddaear yn cynyrchu o hyd y naill flwyddyn ar ol y llall, ac y mae creaduriaid Duw yn filoedd yn heolydd y greadigaeth, ac yn cynyddu o hyd. Pa le y mae dyn a all wneyd hyny: os yn fychan y gwna y crydd yr esgid, bychan a fydd i'r troed; os bychan y gwna y carpenter y llong, nid aiff ddim mwy—yr un faint fydd hi o hyd; os gwna y saer y drws yn rhy fychan i'r frame, nid gwiw ei adael gan ddysgwyl iddo dyfu. Er fod y gragen can galeted a'r gareg, y mae hi yn cynyddu o gwmpas y pysgodyn, a'r pysgodyn yn cynyddu ynddi