Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/162

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hithau fel yn ei amddiffynfa; ond os gwna dyn amddiffynfa, hi erys byth yr un faint ag y gwnaeth hi; pa fodd y mae hyny yn bod? y mae ffyrdd Duw yn uwch na'n ffyrdd ni.

Hefyd, y mae creaduriaid yn cynyrchu o hyd yn heolydd y greadigaeth, a hyny yn wastad. Addefwn fod y watch. a'r clock yn bur gyffredin yn awr; ond er eu bod yn waith celfydd, y maent yn dyfod yn annhraethol fyr i'w cymharu â chreadigaeth Duw. Y maent yn dangos yr awr o'r dydd, mae'n ddigon gwir, ond beth pe gwelem watch yn gwneyd peth tebyg i'r iâr—yn dodwy wyau, un watch yn dodwy rhai eraill, tybiech yn y fan eich bod yn gweled rhyfeddodau Duw. Ond beth ydyw cywreinrwydd dyn yn ei gwneyd o dipyn o steel, a phres, ac arian, a gwydr,—pa beth ydyw hyny yn ymyl y llall? Gwnaiff yr iâr hyny, am mai gwaith llaw Duw ydyw hi; ac nid yn unig gwna hyny, ond y mae yn medru teimlo, a chofio, a gofalu dros ei rhai bychain. Gwelais aderyn bach unwaith wedi ei wneyd o waith celfyddyd yn canu, ond âi ei gân heibio, a rhaid oedd ei windio; ond cân y ceiliog bach gyda'r wawrddydd, a pharhâ i wneyd hyny heb ei windio. Ond y mae dyn yn anfeidrol bell o wneyd dim i'w gydmaru am foment â gweithredoedd Duw. Rhyfeddodau ydyw gweithredoedd Jehofa ar y rhai yr edrych dyn. Beth wyt yn ymyl y Duw mawr? Y mae ar ddyn drafferth fawr gydag ychydig, ond am y Duw mawr nid oes arno efe ddim trafferth gyda llawer iawn. Pa beth ydyw eangder y greadigaeth? Nid oes neb ond Duw, neu yr angelion, a ŵyr rifedi y bydoedd a'r sêr, a gallai fod llawer nas gwelodd yr un angel mo honynt. Ond y mae Duw yn Frenin ar y cwbl, ac yn eu llywodraethu oll; ni "ddiffygia ac ni flina Duw tragwyddoldeb," mae yn anfeidrol uwchlaw pawb. Yr helynt sydd ar ddyn yn codi un peth ac yn tynu peth arall i lawr—llawer o helbul sydd arno gydag ychydig; ond y mae Duw yn gallu gwneyd rhyfeddodau aneirif, a hyny heb drafferth yn y byd. Y mae dynion yn gallu gwneyd llawer o bethau, ond trwy anhawsderau mawr y maent yn eu gwneyd uwch ydyw ffyrdd Duw na'n ffyrdd ni. Y mae ei feddyliau yn uwch na'n meddyliau ni. Yr ydym ni yn meddwl o'r naill beth i'r llall. Ein dull ni o feddwl ydyw cydmaru pethau a'u gilydd, a thynu casgliadau oddiwrth hyny. Yr ydym yn meddwl am yr achos wrth edrych ar yr effaith. Yr ydym ni yn gwel'd bob yn dipyn, o step i