Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/166

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ddyn nac angel amgyffred am y meddyliau hyn. Rhaid dy amgylchu âg anfarwoldeb i gynal tragwyddol bwys gogoniant sydd wedi ei bwrpasu ganddo Ef i'r hwn sydd wedi goddef cystudd tros a chyda'r efengyl yn y byd yma. Rhyw olwg digon a stracio dyn ydyw gweled dynolryw—cymaint sydd yn cyfeiliorni ar y ddaear; cymaint sydd yn dyweyd am y da mai drwg yw; rhai yn troi gras ein Duw ni i drythyllwch, a rhai yn gwadu yr Hwn a'u prynodd, a llawer yn llithro i chwantau ynfyd a niweidiol ag sydd yn boddi dynion i ddinystr a cholledigaeth. Ond y mae gan Dduw ryw ben draw anamgyffredadwy o ddaioni i'w holl feddyliau, ac y mae yn siwr o ddwyn hyny i ben, ac yn bell iawn y tuhwnt i'n deall ni. A wnewch chwi beidio ag ymryson â'r Duw mawr? Yr wyf yn greadur iddo, ond yr wyf yn bechadur hefyd, ond er hyny y mae y Duw mawr a'th wnaeth yn ddigon mawr i faddeu i ti. "Tosturiol iawn yw yr Arglwydd." A wnei di beidio a thynu yn groes iddo? Gŵyr yn gan' mil gwell na thydi beth sydd oreu i ti, a wnei di gymeryd ei ewyllys yn rheol? Y mae yn dyweyd y gwir, a'r holl wir mor belled ag y mae eisieu i ti ei wybod, beth fyddai i ti ei gredu? "Duw gwirionedd ac heb anwiredd" ydyw. Mae ei ewyllys yn dy les a'th gysur di, beth pe bait yn cael ei feddwl mawr Ef i'th feddwl bach dy hunan am Gyfryngwr y Testament Newydd, eangai dy feddwl at Dduw a thuag at greaduriaid Duw nad oes dim arall a'i gwna. Y mae cael rhyw radd o feddwl Duw am ei Fab y meddyliau uchaf allwn gael. Mor wael ac isel a dyddim ydym o'n cydmaru â Duw. Ni leiciwn daflu un diystyrwch ar fawrion y byd, ond wrth edrych ar y Duwdod mawr yn Drindod o bersonau, nid ŵyr y dysgedicaf ddim o'i gydmaru âg Ef, ond gwyr Duw y cyfan sydd mewn bod. Nid ydyw gallu pawb ond gwendid yn ymyl gallu Duw. Nid wyt ond rhyw ysmotyn yn ymyl Duw tragwyddoldeb. Gadewch i Dduw gael eich holl feddyliau, y mae yn gweddu fod ein holl fyfyrdodau ar Dduw. Nid oes eisieu i ti feddwl mor uchel ag Efe; ond nid oes eisieu chwaith i ti feddwl yn groes iddo; ti a gei feddyliau wedi i ti fyned i'r byd mawr nad elli eu cynwys yn y byd yma. Y mae genym Dduw anamgyffredadwy mewn daioni, "Yr Arglwydd sydd yn teyrnasu, gorfoledded y ddaear, a llawenyched ynysoedd lawer."