Gallai fod yma ambell un yn elyn i Dduw. Cofia, y mae genyt elyn rhy drech. Yr wyt yn ymryson ag un rhy gadarn i ti, na welir di ar dy draed i dragwyddoldeb. Pan mae dyn yn ymaflyd codwm a'i Luniwr, mae yn hawdd i bob dyn guessio pwy fydd isaf. Fel Pharaohdacw y Môr Coch wedi ei foddi ef a'i lu yn y fan. Na fydded gwae uwch ein pen o ymryson â'n lluniwr; ond pa beth bynag a ddywedo, gwnawn; beth bynag a orchymyn, cadwn; pa beth bynag y mae yn ei gynyg, cymerwn; a bydded yn dda genym ei gael; beth bynag y mae yn ei addaw, credwn ei addewid; a pha beth bynag y mae yn ei orchymyn, gwnawn â'n holl egni; ni welir achos i edifarhau am hyny i dragwyddoldeb. AMEN.
[Cofnodwyd mewn llaw fer wrth ei gwrandaw, gan Mr. Hugh Jones, Dolgellau, Chwefror 1, 1850.]