Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/168

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PREGETH II.

Y DDOETHINEB SYDD ODDI UCHOD.

"Eithr y ddoethineb sydd oddi uchod, yn gyntaf pur ydyw, wedi hyny heddychlawn, boneddigaidd, hawdd ei thrin, llawn trugaredd a ffrwythau da, diduedd, a diragrith."—IAGO iii. 17.

NID oes dim son yn yr adnod hon am na chredo na phader dyn duwiol; nid oes yma son am ei gyffes ffydd, nac am ei ddefosiynau; nid oes yma son am ei gwymp yn Adda, nac am ei lygredigaeth ymarferol trwy ei waith yn pechu yn ei berson ei hun, nac am ei gyfodiad yn y Cyfryngwr. Nid oes dim o'r gwirioneddau a osodir allan mewn lleoedd eraill o'r pwys mwyaf i'w credu yn cael llefaru am danynt yn yr adnod hon; ond y mae yn cynwys effeithiau y gwirionedd ar y cristion. Dangosir yma agwedd yspryd a thymher gwir grefyddwr; neu ddoethineb, uniondeb, a boneddigeiddrwydd crist'nogol y dyn hwnw sydd yn feddianol ar wir grefydd.

Mae gwir grefydd yn cael ei galw yma yn "ddoethineb." Rhywbeth anhawdd ei gablu yw doethineb. Ni chlywsoch chwi gablu neb am ei fod yn gall, er y clywsoch feïo un am ei fod yn rhyw sarph ddichellgar. Nid oes achos i neb feio crefydd gan mai doethineb ydyw. Yn llyfr Job, a'r Diarhebion, ac mewn lleoedd eraill, cawn dduwioldeb yn myned dan yr enw hwn. A "dechreuad doethineb yw ofn yr Arglwydd." Y peth sydd yn grefyddol i'w wneyd, y mae yn ddoeth ei wneyd ; a'r peth sydd yn synwyrol i'w wneyd, y mae yn ddoethineb ei wneyd. Mae ambell un yn ei feddwl ei hun yn gall am wneyd drwg, ac y mae yn arfer ei holl ddoethineb tuag at hyny, ond callach yw peidio. Mae ambell un yn arfer ei ddyfais i ddyweyd celwydd, ond doethach yw dyweyd y gwir. Mae ambell un yn cynllunio pa fodd i gymeryd ei gymydog i fewn, ond callach tro yw bod yn help iddo. Doethineb yw crefydd, a ffolineb yw bod hebddi. Da fyddai genyf i genedl y Cymry ddyfod i ddeall mai bod yn wir ddoeth yw bod yn