Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/170

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

eu cornio hefyd; pobl eraill a gaiff y llaeth. Ond heddychlawn yw gwir grefydd. Mae y Cristion, y mab tangnefedd hwn, yn dyweyd am heddwch mai da yw. Cafodd brofiad ei hunan o hyn. Mae tangnefedd Duw, yr hwn sydd uwchlaw pob deall, wedi ei wneyd yn dangnefeddus ac yn dangnefeddwr. Duw a roddo y ddoethineb hon i ninau oll.

III. BONEDDIGAIDD. Nid bod yn ŵr boneddig o berchen ystâd a feddylir yma; nid oes ond ambell un o'r boneddigion yn yr ystyr hwn wedi eu galw; ond bod yn meddu tymher foneddigaidd. Gallwch yn yr ystyr hwn fyned yn ŵyr boneddigion ac yn ladies i gyd; a noble a fyddai i chwi oll fyned felly ar yr un diwrnod. Wele, mae yn bosibl cael hyn. "O bydd ar neb o honoch eisieu doethineb, gofyned gan Dduw, yr hwn sydd yn rhoi yn haelionus i bawb, ac heb ddanod; a hi a roddir iddo ef." Nid peth shabby mo dduwioldeb; boneddigaidd yw. Mae ambell i ŵr tlawd yn right ŵr boneddig yn ei ffordd ef; mae heb ystâd, na thenantiaid, na meirch a cherbydau; eto mae yn foneddigaidd yn ei ffordd; yn pasio dros gamwedd, yn hoffi byw arno ei hun hyd eithaf ei allu, ac heb fod am gymeryd mantais ar neb o'i gydgreaduriaid.

Mae boneddigeiddrwydd yr efengyl yn cynwys,—

1. Rhyw yspryd rhydd a diragfarn. Yr oedd Paul a Silas wedi bod yn pregethu yn Thessalonica, ac fe gododd erlid arnynt yno, ac i Berea yr aethant. Yr oedd pobl Berea yn gwrando arnynt yn astud ac yn ewyllysgar iawn; eto ni ddarfu iddynt ddyfod yn broselytiaid ar unwaith y pryd hwnw; ond hwy a wnaethant yn foneddigaidd aethant adref i chwilio yr ysgrythyrau, a oedd y pethau hyn felly. "Y rhai hyn," meddai yr hanes, "oedd foneddigeiddiach na'r rhai oedd yn Thessalonica.' Yr oedd yspryd ac agwedd y bobl hyn yn uwch na'r cyffredin o'r byd. Yn lle barnu a chablu y pregethwyr ar un llaw, na chymeryd pob peth ar goel ar y llaw arall, aethant i gymharu ysgrythyr âg ysgrythyr; a chawsant wybod fod y pethau hyn felly.

2. Bod yn ddiddial. "Nac ymddielwch, rai anwyl." Mae yn anhawdd iawn peidio digio wrth lawer peth yn y byd hwn; ac ni wn i a oes eisieu hyny yn gwbl; mae cynhyrfiad yn erbyn drwg yn naturiol i'r goreu o ddynion. Ond y mae peidio dial am drosedd yn foneddigaidd. Fel