Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/171

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hyn yr oedd ar Dafydd pan gafodd gyfleusdra i ddïal ar Saul. Yr oedd Saul yn erlid ar ei ol, fel un yn hela petris ar hyd y mynyddoedd; ond ar ryw adeg, dyma Dafydd yn cael cyfle i frathu ei gleddyf yn ei galon; ond arbedodd enaid Dafydd eneiniog yr Arglwydd. Ar dro arall, yr oedd un o feibion Serfiah yn gofyn cael taro Saul unwaith, ac ni cheisiai ei ail-daraw. "Na:" meddai Dafydd, "na ddifetha ef." Dyna i chwi yspryd boneddigaidd. Tri dial cristion ar ei elyn:-gweddïo drosto, maddeu iddo, a gwneuthur daioni iddo. Ond ar yr un pryd, nid oes rwymau arnaf i'w gymeryd yn gyfaill. Eithr dylwn gofio, pa fodd bynag, nad oes genyf ryddid i ddïal ar yr un o greaduriaid Duw.

3. Peidio cymeryd mantais annheg ar ein gillydd. Ni ddylech chwi, y plant bychain, wneyd hyny wrth chwareu. Chwithau, y bobl ieuaingc sydd heb briodi, ni ddylech gymeryd mantais annheg ar wendid y naill a'r llall, os gwelwch hyny. Peth pur anfoneddigaidd yw cymeryd mantais ar wendid. Mae y Beibl yn sôn am y rhyw fenywaidd fel y llestri gwanaf;" ond pe byddai y meibion yn sôn am hyny o hyd o hyd, byddai hyny yn annheg arnynt; ac yn wir y mae llawer o ferched yn gallach na'r meibion. Wrth drin y byd hefyd, nid yw Duw yn caniatâu i neb gymeryd mantais annheg ar ei gyd-greadur, mwy nag y mae tad yn hoffi gweled y naill blentyn yn cymeryd mantais ar y llall.

Fel hyn y mae y ddoethineb sydd oddi uchod yn foneddigaidd. Onid yw yr efengyl yn dyfod â dyn i lawr? Ydyw: ond y mae hi yn ei godi i fyny hefyd; mae yn codi y tlawd o'r llwch, ac yn dyrchafu yr anghenus o'r domen, i'w osod gyda phendefigion, ïe, gyda phendefigion pobl Dduw. Mae gostyngeiddrwydd a boneddigeiddrwydd yn byw yn nghyd.

IV. HAWDD EI THRIN. Un hawdd i ymwneyd âg ef yw perchenog y ddoethineb sydd oddi uchod. Mae ambell un, os bydd i chwi â ymhelioch âg ef, mae yn rhaid i chwi gonsid'ro llawer iawn pa fodd i'w foddâu. Ond y mae hyna yn beth cwbl wrthwyneb i yspryd yr efengyl. Mae dynolryw yn cael trafferth ryfeddol i drin eu gilydd. Mae plentyn bach hawdd ei drin yn ddymunol iawn; ac felly plentyn mawr yr un modd. Mae bod y gŵr yn hawdd ei drin yn dra dymunol i'r wraig, yn lle bod fel