Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/172

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ambell un yn cadw ei god yn ei gydyn; ac felly y mae gwraig hawdd ei thrin yn ddymunol i'r gŵr. Mae y dymer fenywaidd yn gyffredin yn fwy bywiog a thouchy; ond y mae gras yr efengyl yn gwneyd y naill a'r llall yn llariaidd ac yn addfwyn. Dywedir fod modd trin pawb ryw sut, naill ai trwy deg neu trwy hagr; ond nid oes ond tymer yr efengyl a fwyneiddia bawb yn hawdd. Bod y mater mawr wedi ei settlo rhwng dyn â Duw, a wna ddyn yn garuaidd a thirion at bawb a phobpeth. Gobaith gwlad well yn mhen y daith a dymhera ddyn i ddygymod â llawer peth câs ar y ffordd. Pe baech yn trafaelu wedi y nôs ar hyd ffordd arw i ymweled â chyfaill hoff, gan wybod fod ganddo dŷ cysurus; tân, bwrdd, a gwely; os bydd yn wlyb, fod yno ddillad sychion i'w newid; ni byddai can waethed arnoch ar y ffordd: felly mae yr enaid sydd a'r gobaith hwn ynddo ef yn ei buro ei hun oddiwrth yr yspryd peevish ac anfoddog. Mae yr hwn a gafodd y ddoethineb hon yn bur annhebyg i ryw ddraenog o ddyn, na wyddoch pa ochr i ymhél âg ef. Hawdd ei drin yw hwn; nid oes ganddo bigau yn un lle. Ni wna byth godi ei law ond i'w amddiffyn ei hun. Yr efengyl a'n gweithio ni i'r dymer hon.

V. LLAWN TRUGAREDD A FFRWYTHAU DA.Cofiwn fod yn rhaid i ni gael crefydd fel hyn. Beth a feddylir wrth hyn? Ai bod dyn yn llawn arno o ran trugareddau tymhorol? Nage: ond fod yr enaid a gafodd ei fywyd yn nhrugaredd Duw yn Nghrist wedi ymgymeryd â'r egwyddor a'r teimlad o drugaredd; aeth i'r un dymer â'r Duw mawr ei hunan. Yr wyf yn cofio hen feddyges yn y gymydogaeth yr wyf yn byw ynddi; byddai pobl wedi eu hanafu yn myned ati yn aml, a hithau yn eu gwella yn o lew; ac fe fyddai hi a'r claf wedi myned yn ffrindiau bob amser; yr oedd hi yn hoffi gwneyd trugaredd, ac yntau yn hoffi cael trugaredd. Mae y pechadur sydd wedi derbyn trugaredd yn a thrwy y Cyfryngwr, yn hoffi ymarfer trugaredd. "Dangosodd efe i ti, ddyn, beth sydd dda, a pheth a gais yr Arglwydd genyt; gwneuthur barn a hoffi trugaredd;" ymgymeryd â'r dymer drugarog. Mae y dymer hon yn myned yn gryfach gryfach wrth gael myned allan a gweithio

"A ffrwythau da;" ffrwythau trugaredd; gweithredoedd da. Mae gweithredoedd da bob amser yn dilyn crefydd