Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/173

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dda; a pheryglus yw hoffi meddwl y gellir gwneuthur hebddynt. Pan welo y dymer drugarog wrthddrych truenus, hi a dosturia ac a gynorthwya. Llestri trugaredd yn rhedeg dros yr ymyl yw hyn. Mae llawer o bethau yn gofyn am ein hymdrech; mae yr amrywiol gymdeithasau crefyddol yn gofyn am ein haelioni. Ac os ydym yn llawn trugaredd, hi a rêd dros yr ymyl mewn cyfraniadau. 'Ffrwyth yn amlhau erbyn dydd y cyfrif" yw hyn. Bydd cyfrif eto o weithredoedd da y duwiol. Mae ei bechodau wedi eu dileu, ond bydd ei weithredoedd da ar gael i gyd. Dyma y bobl sydd yn trin y byd yn iawn: nid y rhai sydd yn ei garu; mae y byd wrth ei garu yn myned yn felldith; ond y bobl sydd yn medru ei drin i fod yn account o'u tu erbyn dydd y cyfrif. Bendigedig fyddo Duw ! "Canys nid yw efe yn annghyfiawn, fel yr annghofio eich gwaith, a'r llafurus gariad, yr hwn a ddangosasoch tuag at ei enw ef, y rhai a weiniasoch i'r saint, ac ydych yn gweini."

VI. DIDUEDD. Anhawdd iawn yw cael dyn heb dipyn o osgo ynddo ryw ffordd; ond peth syth yw duwioldeb; i fyny ac i lawr, mae hi yn bur dêg. Mae y natur ddynol wedi gogwyddo trwy bechod; ac at hunan y mae ei gogwydd. Wedi i ddyn lawer pryd geisio barnu pethau yn o uniawn, mae y duedd gref sydd yn ei natur yn ei gario i'w hunan yn ddiarwybod iddo. Mae cael y farn ddiduedd yn beth mawr. Wrth drin y byd, gwnewch allowance fod tipyn glew o duedd mewn dynion yn gyffredin i dynu atynt eu hunain. Fel hyn y mae gyda barnu eraill, ac yn ngwaith y naill barti crefyddol yn llefaru am y llall. O am fod yn wastad dan ddylanwad y ddoethineb sydd yn ddiduedd.

VII. DIRAGRITH. Mae pawb yn casâu rhagrith, a pheth doeth bob amser yw ei roddi heibio. Mae duwioldeb yn ymwrthod âg ef. Doethineb yw bod yn ddiragrith, o herwydd nid oes bosibl rhagrithio yn iawn. Os mynech fod yn iawn, ymofynwch am y peth ei hunan. Mae ambell un yn paentio yn dda, ond nid neb cystal â natur. Ac y mae yn haws cael y gwir beth o lawer. Nid yw rhagrith yn werth dim wedi ei gael; hawsach cael y gwir beth na chael dawn i ragrithio yn llwyddianus. Ni thycia gyda Duw ond gwirionedd; ac y mae Duw yn foddlawn i roi i ti y gwir beth, os âi ato i ymofyn am dano. Anhawdd