Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/174

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

rhagrithio cariad at Dduw ; ond y mae Duw yn foddlawn i roi i ni galonau i'w garu. Tâl y grefydd dda i'w defnyddio; deil i'w gwisgo. Gall y peth a fyddo wedi ei wisgo âg arian ac aur edrych yn dda am ryw yspaid; ond wrth ei rwbio, mae yr hen ddefnydd yn dyfod i'r golwg. Daw rhywbeth i roi crap arnom o hyd; trwy ryw foddion, fe gripir y croen, a mynir gweled lliw y gwaed. Daw y peth ydym i'r golwg ar fyrder. Os mynem ymddangos yn grefyddol, ymofynwn am grefydd wirioneddol rhyngom a Duw. Daw crefyddd dda gyda ni i bob man.

Wele, fy anwyl bobl, ymofynwch am y grefydd iawn yma. Mae hi yn awr i'w chael; ond y mae perygl i chwi fyned i'r byd arall hebddi. Ei gwir ddymuno yw y gamp. O am grefydd â'n gwnelo o nifer rhai llednais y tir, rhai llariaidd y ddaear; crefydd a fyddo yn dyweyd yn dda am ei Hawdwr mawr, yn ein gwneyd yn bobpeth drosto ac iddo tra y byddom yn y byd, ac yn ein cymhwyso i fyned ato yn y diwedd. Adnabod Iesu yn iawn a gaffom nes ein cyfnewid i'r unrhyw ddelw." [1] —AMEN.

  1. Gwel y "Pregethwr," Ebrill, 1842.