Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/176

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y mae gan Dduw lywodraeth eto ar y greadigaeth resymol. Pa le bynag y mae creadur rhesymol, y mae o dan lywodraeth Duw fel y cyfryw. Y duwinyddion yn gyffredin a alwant hon yn llywodraeth foesol, sef am yr un rheswm ag y galwant y ddeddf yn ddeddf foesol. Gelwir y ddeddf felly, nid am fod deddf anfoesol yn bod, ond i'w gwahaniaethu oddiwrth y deddfau seremoniol, naturiol, a gwladol. Felly gelwir llywodraeth Duw ar berchenogion meddwl a rheswm yn llywodraeth foesol, i'w gwahaniaethu oddiwrth lywodraeth Duw ar y byd naturiol ac ar y greadigaeth ddireswm. Mae y llywodraethau hyny yn wahanol iawn i'r llywodraeth hon. Y mae creaduriaid yn myned yn mlaen yn ol eu deddfau, ond nid ydynt yn gwybod paham; maent yn adwaen eu tymhorau rywsut, ond nid oes ganddynt reswm, pe medrent siarad, i'w roddi am hyny. Nid ydynt yn meddwl am Ddeddfroddwr, nac yn meddu modd i feddwl am dano. Ond y mae gan Dduw lywodraeth foesol ar ddyn. Yn y llywodraeth hon, y mae Duw yn dodi o flaen dynion einioes ac angeu, bywyd a marwolaeth; addewidion am ufudddod, a bygythion ofnadwy am anufudd—dod; mae yn dangos y lles mawr o gydffurfio â'r llywodraeth, a'r perygl mawr o wrthryfel; mae yn cosbi bai, ac yn gwobrwyo rhinwedd a daioni. Ni wn pa fodd i ddyweyd yn well ar hyn mae y Beibl yn dyweyd pethau fel yna.

Y mae y llywodraeth hon yn destun gorfoledd i'r ddaear, oblegyd y mae Duw yn gwneyd yn dda ac uniawn â phawb. Ni orthryma efe neb." "Nid yw yr Arglwydd yn gweled yn dda wneuthur cam â gŵr yn ei fater." Er ei fod yn uchel, a dynion ger ei fron fel locustiaid, eto "ni ddiystyra efe neb." Yr oedd yn werth ganddo ein creu i ddyben uchel, ac y mae yn werth ganddo ein cynal a gofalu am danom. Ac mor fanwl yw sylw y Jehofah mawr ar ei ddeiliaid fel y dywedir ei fod yn rhifo eu camrau. Mae yn sylwi ar bawb fel pe na byddai ond un, ac yn sylwi ar un fel pe byddai yn bawb. Er mor fawr ydyw, y mae yn hollol gyfiawn. Er ei fod yn Unbenaeth tragwyddol, yn gwneuthur a fyno â llu y nefoedd, ac â thrigolion y ddaear, nid yw yn gwneuthur dim ond yr hyn sydd uniawn. Da yw y peth sydd yn dda yn ngolwg Duw; y goreu yw yr hyn a wêl yn oreu. Peth drwg yw ewyllys dyn yn rheol, ond gwerthfawr iawn yw