Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/177

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ewyllys Duw yn rheol; a Duw a blygo ein hewyllysiau ni i'w ewyllys ef.

Y mae pawb yn ddeiliaid i'r llywodraeth hon; er nad yw dynolryw yn gyffredin yn teimlo eu rhwymedigaeth i'r Llywydd mawr. Mae y byd yn meddwl mai pobl grefyddol sydd dan rwymau i ufuddhau i Dduw. Gweddus iawn i grefyddwyr yw bod yn gyson â hwy eu hunain; ond dylai pawb wasanaethu Duw. Y mae llywodraeth Duw ar ddyn fel y mae yn greadur rhesymol, ac am ei fod yn greadur rhesymol. Mor hawdd a fyddai i ddyn fyned o lywodraeth Duw yn yr ystyr yma ag a fyddai iddo fyned yn ddim. Ni all fyned allan o rwymau i ufuddhau i Dduw mwy nag y gall ddiddymu ei hunan. Y mae bod dan rwymau i ufuddhau i Dduw yn anrhydedd i bob dyn. I ba le bynag yr elych, ni elli fod yn rhydd o lywodraeth Duw. Beth pe rhoddid i mi adenydd y wawr, a phe trigwn yn eithafoedd y môr? Ni byddai hyny ond yr un peth yn hollol; byddai llywodraeth Duw yn y fan hono. Beth pe esgynwn i'r nefoedd? Byddit yno yn y breninllys ei hunan. Beth pe cyweiriwn fy nyth yn uffern? Ei garchar ef ydyw, lle y mae y Brenin_yn rhoddi rhai rhy ddrwg i fod a'u traed yn rhyddion. Er i rai fod yn garcharorion yn Newgate oblegyd troseddau, nid ydynt allan o lywodraeth Victoria yno; y mae hwnw yn nghanol y brifddinas. Felly am drigolion Gehena; nid ydynt allan o'r llywodraeth fawr. Y maent allan o ffafr eu Tywysog, ond y maent i gyd yn ddeiliaid. "Gorfoledded y ddaear," oblegyd llywodraeth Duw. Mae yn well gan ddyn feddwl mai yr Arglwydd sydd yn llywodraethu na neb dynion. Un ferch ddigrefydd a ddywedodd, "Mae yn bur sobr genyf feddwl mai Duw sydd yn fy marnu; ond gwell genyf hyny nag i un dyn fod fy marnwr; caf chwareu teg ganddo ef."

Y mae gan Dduw lywodraeth eto mewn ystyr wahanol; llywodraeth gras Duw yn y Cyfryngwr. Mae y Beibl yn son llawer am hon; gelwir hi yn fynych yn deyrnas, a theyrnas Dduw. "Ceisiwch yn gyntaf deyrnas Dduw, a'i gyfiawnder ef." Yr Apostol a ddywed, Yr Apostol a ddywed, "Fel megys y teyrnasodd pechod i farwolaeth;" dyna deyrnasiad sobr iawn; nid gwiw gwaeddi gorfoledded y ddaear am hono. Ond dyma y testun gorfoledd," felly hefyd y teyrnasai gras trwy gyfiawnder, i fywyd tragwyddol, trwy Iesu