Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/178

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Grist ein Harglwydd." Mae pechod wedi teyrnasu yn gyffredinol yn y byd. Ni wyddis yn iawn pa sut y daeth pechod i mewn yma; ond ni a wyddom iddo ddyfod. Fe ddaeth trwy un dyn, ac fe deyrnasodd i farwolaeth yn y natur ddynol. Ond dyma deyrnasiad arall; teyrnasiad i fywyd; teyrnasiad gras yn y Cyfryngwr ar lwybr anrhydeddus i ddeddf a phriodoliaethau Duw. "Teyrnas ei amynedd ef."

Beth sydd i ni ddeall wrth lywodraeth gras? Y mae hon, mae yn wir, yn llywodraeth foesol, ac nid yr un peth a llywodraeth Duw ar y greadigaeth ddifywyd neu ddireswm. Y mae addewidion mawr iawn a gwerthfawr yn hon o bethau annhraethol fawr a gogoneddus. Nid yw gwobrwyon am ddaioni a cheryddon am anwiredd wedi eu cymeryd allan o honi. Yr un yw y Llywydd, a'r un yw y ddeddf. Ni ddaeth Crist "i dori y gyfraith ond i gyflawni." "Haws i nef a daear fyned heibio, nag i un tipyn o'r gyfraith ballu." Beth yw y gwahaniaeth? Yn nhrefn gras y mae Duw yn derbyn yn ol bechaduriaid oedd wedi gwrthryfela yn erbyn ei lywodraeth fel un gyffredinol ar yr holl greadigaeth. Pan aeth y dyn cyntaf i lawr, aeth y cyfan i lawr. "Megys deilen y syrthiasom ni oll," ac o hyny hyd yn awr, "ein hanwireddau megys gwynt a'n dug ni ymaith." Er fod pechod yn beth ffol a difantais iawn, mae y natur ddynol yn myned ar ei ol i farwolaeth. Ond yn y Cyfryngwr y mae Duw wedi sylfaenu rhyw deyrnas o ras, yn yr hon y mae anfeidrol ogoniant iddo ei hun ac anfeidrol gyfoeth o drugaredd i bechaduriaid. I ddangos ei ras y mae Iesu, y Llywydd mawr, wedi dyoddef a marw, fel y cai holl ddeiliaid ei deyrnas rasol fywyd yn ei angeu. Mae Ꭹ Person gogoneddus hwn wedi ei osod gan Dduw yn iawn, "i ddangos ei gyfiawnder ef; fel y byddai efe yn gyfiawn, ac yn cyfiawnhau y neb sydd o ffydd Iesu."

Y mae pawb yn ddeiliaid llywodraeth gyffredinol Duw; ond y mae rhagor mawr rhwng y cyfiawn a'r drygionus. Nid yw y gwahaniaeth mewn bod yn ddeiliaid; ond y mae y gwahaniaeth mewn cyflwr, tuedd, ac amgylchiad. Mae yn y nefoedd ddau fath o ddeiliaid i Dduw. Mae yno un math heb wrthryfela erioed yn ei erbyn; meibion henaf Duw, y rhai ni throseddasant un amser ei orchymyn; safasant hwy yn ffyddlawn pan fu gwrthryfel yn y