Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/179

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

nef. Math arall yw rhai wedi bod yn wrthryfelwyr, ond a gymodwyd â Duw yn ngwaed ei Fab; nid oes y radd leiaf o wrthryfel at Dduw yn eu meddyliau yno. O! y mae yn hapus arnynt yn awr yn y mwynhad perffaith o Dduw a'r Oen. Mae yn uffern hefyd ddau fath. Un math wedi gwrthryfela yn foreu; yr angylion syrthiedig, y rhai a gadwodd Duw mewn cadwynau tragwyddol, dan dywyllwch, i farn y dydd mawr, heb gyhoeddi na chynyg trugaredd iddynt erioed. A'r lleill yw pechaduriaid o'r ddaear, y rhai a fuant unwaith yn y byd lle yr oedd Duw yn maddeu, ond a aethant o hono heb dderbyn maddeuant. Dyna ddau ddosbarth sobr iawn; maent yn eithaf truenus, ond y maent er hyny yn ddeiliaid llywodraeth Duw. Mae ar y ddaear hefyd ddau fath. Mae un sort, a gwyn fyd na byddem oll o'r sort hono, wedi eu symud i deyrnas anwyl Fab Duw. Nid ydynt yn hollol yr un fath a'r teulu sydd yn y nefoedd; mae yma ddeddf yn yr aelodau yn gwrthryfela yn erbyn deddf y meddwl; mae yma ryw anhwyldeb yn eu blino, ond y mae eu bywyd yn ddiogel; maent eto yn sŵn y rhyfel, ond ni chyfrgollant byth. Y dosbarth arall sydd yn para yn wrthryfelgar yn erbyn Duw, er clywed am y cymod; maent yn troi yn glustfyddar i holl alwadau Duw ar eu holau, yn myned yn mlaen gan gyflawni pob aflendid yn un chwant. Nid yw holl fygythion y ddeddf yn eu dychrynu, na holl addewidion yr efengyl yn eu denu. Mae y byd, y cnawd, a'r diafol yn cau eu clustiau nes eu byddaru i bob lleisiau eraill. Wele dyma yr annuwiol. A ydyw ef yn ddeiliad Duw? Ydyw, ond deiliad gwrthryfelgar ydyw, heb ei gymodi â'i Frenin; deiliad yn rhedeg yn y gwddf i Dduw; deiliad yn gwrthod cymod, a hyny am ei fod yn gymod rhad. Mae y naill wedi dyfod i deyrnas anwyl Fab Duw, allan o feddiant y tywyllwch, a'r llall yn aros o hyd yn y fyddin ddu wrthryfelgar. Y mae bod mewn cyflwr gwrthryfelgar yn sefyllfa beryglus iawn. Y pwnc mawr i ni yw,—pa le yr ydym ni yn sefyll gyda golwg ar y deyrnas? A dderbyniasom ni yr efengyl? Mae Duw wedi gosod ei Fab yn Frenin ar Sion, ei fynydd sanctaidd; ond efallai dy fod ti yn para i ddywedyd, Ni fynaf y dyn hwn i deyrnasu arnaf. Os felly, yr wyt yn diystyru golud daioni Duw.

Edrychwn yn awr ar ragorfreintiau teyrnas gras. Y