Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/180

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

mae arnaf eisieu eich cael iddi bob un. Ni wiw i ni droseddwyr bledio cyfiawnder Duw; nid oes dim am dy fywyd, bechadur, ond teyrnas gras Duw. Wel, a oes rhyw fantais i'w gael ynddi? Oes: oblegyd, yn un peth, "maddeuir anwiredd y rhai a drigant ynddi." Onid yw hyn yn ffafr fawr iawn? "Trugarog fyddaf wrth eu hannghyfiawnderau," meddai Duw; "a'u pechodau hwynt a'u hanwireddau ni chofiaf ddim o honynt mwyach." Mae gwynfydedigrwydd yn gyhoeddedig uwch ben y rhai hyn. Gwyn ei fyd y neb y maddeuwyd ei drosedd, ac y cuddiwyd ei bechod." Ond nid yw y gwyn fyd yna yn perthyn i neb ond i ddeiliaid teyrnas gras. Rhaid dy gael i fewn i dir Emanuel i ddechreu. Ni phregethir maddeuant ond yn enw Brenin y deyrnas.

Mae yn ngoruchwyliaeth y deyrnas hon eto, nid yn unig faddeu yr anwiredd, ond iachau y llesgedd. Mae Haul cyfiawnder yn codi ar bechaduriaid yma, â meddyginiaeth yn ei esgyll; byddant yma wedi gwella yn dda. Mae triagl yn y Gilead yma i wellâu iechyd merch y bobl. Dichon Iesu yn y drefn hon gwbl iachâu y rhai trwyddo ef sydd yn dyfod at Dduw.

Y mae yma fodd i olchi yr aflan hefyd. Mae pechod wedi myned yn rhyw aflendid ar y natur ddynol. Hen staen ofnadwy ydyw sydd yn anhawdd iawn i gael i ffordd. Po neisiaf y byddo llawer peth, aflanaf fydd wedi ei ddifwyno, ac anhawddaf ei olchi. Mae careg aflan yn fwy anhardd nag un làn; mae anifail aflan yn wrthunach; mae dyn aflan yn anmhrydferthach eto: ond y mae merch aflan yn wrthunach fyth. Ond o bob peth aflan, ysbryd neu enaid aflan yw yr hyllaf, gan ei fod ef yn fwy refined na dim arall. Ond y mae yn nhrefn gras fodd i olchi yr enaid oddiwrth ei aflendid. Mae ffynon wedi ei hagor o bwrpas i olchi pechaduriaid oddiwrth eu pechodau. Y mae miloedd eisoes wedi eu golchi, yn moli am eu cànu yn ngwaed yr Oen.

Yn mhellach, y mae deiliaid gras wedi eu hysgrifenu yn mhlith y rhai byw; maent wedi dyfod oll i ddiogelwch o ran eu sefyllfa. Ni bydd colled am einioes yr un honynt byth mwy. Efallai fod ganddynt lwythi o ryw bethau mewn perygl; ond ni bydd perygl am eu heinioes; o herwydd "eu bywyd a guddiwyd gyda Christ yn Nuw." Gwelwyd llawer un, wedi bod mewn sefyllfa led gysurus