Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/181

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn y byd, yn cael ei chwythu i lawr oddiyno. Ond nid ydyw felly yn nheyrnas gras. "Nid yw ewyllys y Tad yr hwn sydd yn y nefoedd gyfrgolli yr un o'r rhai bychain hyn." "Y mae yn ddiogel genyf," meddai Paul, "na all nac angeu, nac einioes, nac angylion na thywysogaethau, na meddiannau, na phethau presenol, na phethau i ddyfod, nac uchder na dyfnder, nac un creadur arall, ein gwahanu ni oddiwrth gariad Duw, yr hwn sydd yn Nghrist Iesu ein Harglwydd." Nid oes myned i fewn ac allan yn y deyrnas hon. Yn y Zoological Gardens yn Llundain, y mae yno un ffordd i fyned i mewn, lle y derbynir rhai trwy dalu, a gates eraill i fyned allan pan y myno dyn, ond nid i ddyfod i mewn trwy y rhai hyny drachefn. Ond y mae teyrnas gras yn agored i rai i ddyfod i mewn iddi, ond nid i fyned ymaith o honi. Wedi y delo yr enaid i mewn unwaith, allan nid â ef mwyach.

Y mae holl ddeiliaid hon ynddi o egwyddor. Mae Brenin y deyrnas wedi ysgrifenu ei gyfraith yn eu calonau, a'i dodi yn eu meddyliau. Buont unwaith yn meddwl mai cryn garchar oedd byw yn dduwiol; ac y mae arnaf ofn fod llawer eto yn meddwl yr un fath; ond am bobl Dduw, y mae wedi dyfod yn naturiol iddynt i fyw yn dduwiol; maent oll yn caru eu Brenin, ac y mae ei gyfraith wrth eu bodd. "Gweddïant drosto ef yn wastad, a beunydd y clodforir ef" ganddynt; maent yn barod i hoelio eu clust wrth ei ddôr; mae ei wasanaeth yn dyfod yn fwy boddhaol iddynt o hyd. Ni byddant yn wrthryfelwyr mwyach. Y maent yn ewyllysgar i oddef cystudd megys milwyr da i Iesu Grist. Maent wedi cael eu bywyd tragwyddol yn angeu Crist, a hwy a roddant eu bywyd naturiol drosto os bydd achos. Deddf eu Duw sydd yn eu calonau, am hyny eu camrau ni lithrant.

Y mae pob mantais i'w chael yn nheyrnas gras. Nid oes yn y byd yma yr un fantais heb fod anfantais yn ei chanlyn. Y bobl sydd am fyned i'r America, meddwl myned yno er eu mantais y maent. Y mae y tir yno yn rhad, a phris uchel ar lafur; ond y mae anfanteision yn nglŷn â hyny. Os oes yno dir brâs, y mae effeithiau anghyfannedd-dra llawer oes ar y ffordd i'w fwynhau. Felly y mae yn y byd yma; mae pwll o flaen y drws, neu gareg lithrig wrth dŷ pob un. Ond y mae teyrnas gras Duw yn fanteisiol o ben bwygilydd. Ceir yma fanteision