Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/182

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

heb yr anfanteision gyferbyn â hwy. Wele, ceisiwch deyrnas Dduw. Yn wir pe byddech wedi mudo yma, ni chwynech byth am yr hen wlad. Cyhoeddir yma dangnefedd i bell ac i agos, a hwnw yn dangnefedd Duw, yr hwn sydd uwchlaw pob deall, i gadw y meddwl a'r galon yn Nghrist Iesu. Bendigedig a fyddo Duw am ei sylfaenu. Gorfoledded y ddaear." Os rhaid i gythreuliaid genfigenu, iawn yw i ddynion lawenychu. Mae llawenydd mawr i'r holl bobl o sylfaenu y deyrnas hon.

Daw amser y bydd y deyrnas hon yn cael ei rhoddi i fyny; pa bryd ni wn, ond y bydd yn y diwedd. "Yna y bydd y diwedd, wedi y rhoddo efe y deyrnas i Dduw a'r Tad." Bydd y deiliaid ffyddlawn yn cael eu cyflwyno i Dduw, a'u gosod ger bron ei ogoniant ef yn ddifeius mewn gorfoledd. Yna plygir y deyrnas fel llen; ni bydd yn bod fel y mae yn awr. Er y bydd Crist yn y natur ddynol yn ben ar ei Eglwys yn oes oesoedd, ni bydd gweinyddiad ei deyrnas yn y dull y mae yn bresenol. Caiff ei chau i fyny yn y fath fodd ag na bydd admittance iddi byth mwy; ni dderbynir neb yn ddeiliaid newydd o hyny allan. Fy ngwrandawyr, gall angeu gau ar y deyrnas yma i chwi yn mhell iawn cyn hyny. Y meirw ni welant ei gogoniant; y bedd ni foliana am dani. Deuwch i mewn iddi cyn i angeu eich dal.

Dymunwn ddywedyd wrth y rhai sydd allan o deyrnas gras, mai peth sobr iawn yw para yn wrthryfelwyr. Bechadur, os gwrthryfela a wnei am dipyn eto, bydd yn rhaid i ti sefyll holl ganlyniadau dy wrthryfel; cei dy ffordd ar dy ben dy hun. Os byddi allan o drefn rasol Duw, rhaid i ti ddwyn yn dy gorff a'th enaid am dragwyddoldeb holl ganlyniadau truenus dy wrthryfel diachos. Bydd yn rhaid i ti fyw byth gyda chydwybod euog, yr hon a fydd yn dyweyd i ti fod yn ymyl trugaredd Duw, a gwrthod ei derbyn.

Wel, meddai rhywun, hwyrach y bydd holl drefn gras wedi myned yn ofer; efallai na chymer plant dynion eu perswadio i roddi eu hunain i Frenin Sion; hwyrach y bydd Iesu farw yn ofer, ac na ddaw neb o'r gwrthryfelwyr i ymostwng yn wirfoddol iddo. O na: "o lafur ei enaid y gwêl (yr Iesu), ac y diwellir ef." Mae addewidion Duw i'w Fab yn sicrhau y bydd iddo gael rhan gyda llawer, neu y llawer yn rhan iddo. Ni cheiff neb ddywedyd, Y