Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/18

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENNOD I

MR. HUMPHREYS A'I DDYDDIAU BOREUOIL

Nr oedd yr hybarch Mr. RICHARD HUMPHREYS wedi arfer cadw na chownt na chyfrif o ddim o'i fyfyrdodau, ei deithiau, na'i weithrediadau. Nid oes cymaint ag un bregeth ar ei ol, yn ei lawysgrif ef ei hun; ac mor bell ag yr ydym wedi gallu cael allan, nid oes ond ychydig o lythyrau iddo ar gael, heblaw y rhai a ysgrifenwyd ganddo at ei deulu pan y dygwyddai fod oddicartref. Oni bai fod ei bregethau, ei ffraetheiriau, a'i ddywediadau cynnwysfawr, wedi argraphu eu hunain ar feddyliau a chydwybodau y rhai a'i hadwaenai, buasem wedi ei golli o'n plith fel llong yn suddo yn nghanol y môr, heb ddim i ddangos y fan lle yr aethai i lawr. Ond buasai ein colled yn ddau cymaint, o gymaint ag y buasem wedi colli y llong a'i llwyth. Y mae y llong—a llong odidog ydoedd hefyd—wedi suddo er's dros naw mlynedd; ond y mae llawer o'r cargo yn parhau i nofio ar y wyneb, ac y mae sypynau gwerthfawr yn cael eu golchi i'r lan yn fynych. Yr ydym wedi bod am y misoedd diweddaf yn cerdded gyda'r glanau, o amgylch y fan lle y cymerodd y wreck le, a thrwy gymhorth cyfeillion yr ydym wedi llwyddo i gael llawer o sypynau i dir yn ddiogel. Mae yn wir fod rhanau o'r llwyth wedi eu golchi i dir yn mhell o lanau Gorllewinol Meirionydd, ond adnabyddai pawb hwy fel pethau perthynol i'r llong suddedig; a bu brodyr ffyddlon mor garedig a'u hanfon yn ddiogel i ni: a'n gwaith yn y gyfrol fechan hon fydd ceisio casglu a diogelu cymaint ag a allwn o'r trysorau gwerthfawr perthynol iddi. Nid oes