dim yn brawf gwell o'r rhagoriaethau oedd yn perthyn i Mr. Humphreys na'r adgofion bywiog sydd yn mysg ei gymydogion ac ereill am dano, a hyny yn mhen cymaint o flynyddoedd ar ol ei ymadawiad. Bydd ei enw yn. perarogli yn hyfryd yn y Dyffryn a'r amgylchoedd am oesau lawer.
Saif Dyffryn Ardudwy ar lain o wastadedd sydd yn gorwedd rhwng y môr a mynydd y Moelfre, ychydig filldiroedd i'r gogledd o'r Abermaw, ar y ffordd i Harlech. Er na cheir yn Nyffryn Ardudwy lawer o bethau a ddysgwylir eu cael mewn dyffryn, etto y mae yn ardal boblogaidd a hynod o'r dymunol i fyw ynddi: y mae yn syndod ei bod mor boblogaidd, pan yr ystyriom nad oes yno weithfeydd o fath yn y byd i dynu dynion yn nghyd. Y mae yma un palas henafol o'r enw Cors-y-gedol (yr hwn a berthynai unwaith i hen deulu enwog y Fychaniaid, ger Dolgellau), ac am yr hwn y mae gan y trigolion lawer o bethau i'w dywedyd. Bu Charles yr Ail, pan yn ffoadur, yn llety yna noson: ac y mae y gwely a'r ystafell lle y bu yn cysgu yn cael eu cadw fel yn gysegredig i'w dangos i'r cywrain hyd y dydd hwn.
Yr oedd Mr. Humphreys yn Ddyffrynwr o waed coch cyfan. Yr oedd ei dad, Humphrey Richard, yn fab i amaethwr cyfrifol o'r enw Richard Humphreys; a'i fam, Jennet Griffith, yn ferch Taltreuddyn fawr. Yr oedd hithau hefyd o deulu parchus, ac wedi cael addysg foreuol dda. Bu am dymmor yn Lloegr yn yr ysgol, yr hyn oedd yn beth tra anghyffredin yn y dyddiau hyny. Yr oedd y ddau yn aelodau eglwysig ffyddlon gyda'r Trefnyddion Calfinaidd yn y Dyffryn. Yr oedd i Humphrey Richard ddau frawd a thair chwaer: Griffith Richard, y Capel (fel y gelwid ef yn y Dyffryn), a John Richards, Llanfair—tad i'r diweddar Barch. J. L. Richard, gweinidog parchus gyda'r Trefnyddion Wesleyaidd—a Mrs. Edwards, Caercethin. Ei chwiorydd oeddynt Elizabeth Richard, Uwch-glan, Llanfair; Jane Richard, Ymwlch—mam y diweddar Morgan Owen, Glynn, Talysarnau; a Gwen Pugh, priod Mr. Thomas Pugh, Dolgellau, at yr hwn y bydd genym achos i alw sylw eto. Daeth Gwen Pugh i ddiweddu ei hoes i Dy Capel y Dyffryn. Yr oedd yn hynod o ffraeth. Yr oedd i Jennet Griffith hefyd frawd a chwaer: Hum-