Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/184

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PREGETH IV.

DYNA Y DUW!

"Dyna y Duw."—EZRA i. 3.

MAE y testun yn rhan o eiriau Cyrus wrth anfon y caethion adref o Babilon. Un o'r dynion hynotaf yn mhlith y rhai hynod oedd Cyrus. Yr oedd yn ddyn talentog fel llywodraethwr gwladol; a champ fawr arno oedd ei fod yn llawn o'r hyn a elwir yn synwyr cyffredin, ond yr hwn, ysywaeth, yw y mwyaf annghyffredin o bob synwyr. Rhoddodd Duw hysbysrwydd am dano cyn ei eni.

Ymddengys fod Cyrus yn gwybod rhywbeth am y gwir Dduw. Mae yn ei gyhoeddiad am ollyngiad yr Iuddewon i'w gwlad, ac am adeiladu y deml yn Jerusalem, yn galw Duw Israel yn "Arglwydd Dduw y nefoedd," ac yn dywedyd mai Efe a roisai iddo deyrnasoedd y ddaear; ac medd efe yn ein testun, "Arglwydd Dduw Israel,—dyna y Duw!" fel pe dywedasai, "Nid oes un Duw yn y nefoedd na'r ddaear yn werth ei addoli na'i enwi ond Duw Israel. Clywais am lawer o dduwiau; ond un yn unig yw yr iawn Dduw: Arglwydd Dduw Israel,—dyna y Duw!"

Dylem ninau ystyried mai ein peth mawr ni yw cael Duw. Gan Dduw y cawsom ein crëu. Mae perthynas creaduriaid â Chreawdwr yn bod rhyngom âg Ef; nis gall lai na bod, ac ni phaid byth. Ond peth arall yw cael ein Creawdwr yn Dduw i ni. Mae perthynas llywodraethedig a llywodraethwr rhyngom â Duw; ond y mae hyny hefyd yn wahanol oddiwrth ei fod yn Dduw i ni. Mae Efe yn Dduw mawr, ond gallwn ni fyned trwy y byd heb ei adnabod. Mae yn "Frenin mawr ar yr holl ddaear." Yr wyf yn tybied mai dyna ddylai fod pwnc mawr pob creadur rhesymol; cael ei Greawdwr yn Dduw iddo. Bu efe unwaith yn Dduw i'r angelion ni chadwasent eu dechreuad, ond nid yw felly yn bresenol. Y mae ar ddyn, cofier, angen Duw. Yr ydym wrth natur "heb