Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/185

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

obaith genym, ac heb Dduw yn y byd." Dyna ddesgrifiad gresynus iawn o'n tlodi.

Arganmawl Duw sydd yn y testun: "Dyna y Duw." Rhaid i lawer o berffeithiau gogoneddus ymddangos yn y gwrthddrych cyn y gellwch ddyweyd am dano, "Dyna y Duw."

I. RHAID EI FOD O RAN EI BRIODOLIAETHAU NATURIOL,

1. Yn dragywyddol; Nid yn ddiddechreu a diddiwedd oes yr un creadur fel hyn, ac am hyny ni ddichon y crëadur fod yn Dduw. Nid ydym ni ond newydd ddechreu byw. Mae miloedd wedi hanfodi o'n blaen. Pe meddyliech am hen ŵr pedwar ugain mlwydd oed, nid yw efe mewn cymhariaeth ond megys newydd ddechreu bôd; eithr nid ä byth bellach allan o fôd. Er na pherthyn anfarwoldeb i'r creadur yn hanfodol, eto y mae Duw wedi ordeinio fod dynion i fyw byth; ac am ein bod i fyw byth, mae yn rhyw haws genym gydnabod fod Duw i barhau i dragwyddoldeb, na'i fod erioed o dragwyddoldeb.

Mae y meddylddrych o Fôd diddechreu yn ein dyrysu. Duw yn bôd, ac erioed heb ddechreu bôd! Nid all y meddwl dynol amgyffred hyny; ac y mae yn chwilio am ryw le i ffoi rhag ei addef. Hwyrach yr ä i feddwl i Dduw ddechreu bod rhywbryd draw, draw, ei fod yn hen iawn—yn henach na'r ddaear—cyn gosod ei sylfaeni yn mhell! Ond nis gall hyny fod,—fod Duw wedi cael dechreuad. Os cafodd Duw fod gan rywun arall, rhaid i ni briodoli Duwdod i'r neb a roddodd fôd iddo. Gan hyny, os nad yw Duw yn ddiddechreu, nid yw yn deilwng o gael ei alw yn Dduw. Ond ni ddechreuodd y Duw mawr hanfodi erioed. Creawdwr digrëedig yw efe; Gwneuthurwr diwneuthuredig. Efe a wnaeth bobpeth a phawb; eithr efe ei hunan ni wnaed gan neb. Mae y meddwl dynol yn chwanog o fyned i chwilio ai ni ddarfu iddo Ef ryw ddiwrnod roddi bôd iddo ei hunan. Pe tybiech i Adda roddi bôd iddo ei hunan, chwi dybiech yr Adda hwnw o'i flaen ei hunan, yr hyn dyb sydd yn afresymol. Gan hyny, rhaid i'r neb y gellir dywedyd am dano, "Dyna y Duw," fod yn Dduw o dragwyddoldeb i dragwyddoldeb, heb ddoe nac yfory yn perthyn iddo, ond yn llon'd y tragwyddoldeb tu ôl i ni, a'r tragwyddoldeb tu blaen i ni hefyd. Un felly yw Duw y Beibl; gan hyny, "Dyna y Duw."