2. Rhaid ei fod yn Hunanddigonol yn un na bydd arno eisieu dim gan neb. "Nid â dwylaw dynion y gwasanaethir" y cyfryw Dduw, "fel pe byddai arno eisieu dim, gan ei fod Ef yn rhoddi i bawb fywyd ac anadl, a phob peth oll." Nid oes neb fel hyn ond Duw. Yr ydym ni yn ymddibynu ar Dduw mewn modd llwyr a hollol, ac i ryw fesur ar ein gilydd. Cewch weled y plant yn ymddibynu ar eu rhieni, ac weithiau y rhieni ar y plant. Ni wyddom ni yn y byd pa bryd y bydd arnom eisieu cymhorth y mwyaf dirmygedig. Ond am Dduw, nid oes arno ef angen am help neb. Nid oes arno eisieu help neb i fod yn ddedwydd. Mae yn ddigon o hono ei hunan iddo ei hunan. Mae yn gyflawn o bobpeth. Rhaid gan hyny ei fod yn hollol independent. Wele, "Dyna y Duw." Dewiswn yn Dduw i ni yr hwn sydd yn ddigon erioed iddo ei hunan.
3. Rhaid ei fod yn Hollalluog—un a allasai â'i air wneyd yr holl greadigaeth, nefoedd a daear, y môr, a'r hyn oll sydd ynddynt; a gwneuthur y bydoedd o ddim, heb bethau gweledig yn ddefnyddiau iddo; un a all reoli yr elfenau mwyaf afreolus gyda phob hawsder; un na flina ac ni ddiffygia, pa beth bynag a wnelo; un nad oes derfyn ar ei allu,—"Dyna y Duw." Ac un fel yma yw ein Duw ni. Gall ddywedyd yn hyf yn nghlyw pawb oll" Myfi yw Duw Hollalluog."
4. Rhaid ei fod yn Hollbresenol. Mae Duw felly. Ped esgynem i'r nefoedd, mae Duw yno; pe cyweiriem ein gwely yn uffern, mae Efe yno :
"Mae'n llon'd y gwagle yn ddi-goll."
Pe meddyliech am rywle yn y gwagle diderfyn nad yw Duw yno, ni fedrai y meddwl ddim ymdawelu ei fod yn Dduw. Rhaid ei fod yn Anfeidrol, heb derfynau iddo. Pe meddyliech y gallai rhywun fyned o'i gwmpas, a phe gallai creadur ei amgyffred, nis gallai fod yn Dduw. Rhaid ei fod yn anfeidrol fawr—yn uwch na'r nefoedd, yn ddyfnach nag uffern, yn hwy na'r ddaear, ac yn lletach na'r môr, onidê nis gallai ein meddwl ddywedyd, "Dyna y Duw."
5. Rhaid ei fod yn Hollwybodol. Pe gellid dywedyd fod rhywbeth nad yw Duw yn ei wybod, ni byddai yn Dduw. "Goleuni yw Duw, ac nid oes ynddo ddim