Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/187

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

tywyllwch." Mae ychydig o oleuni yn rheswm dyn, ond y mae ynddo lawer o dywyllwch hefyd. Ond am Dduw, nis gellwch briodoli un math o anwybodaeth iddo. Mae nid yn unig yn gwybod yr hyn sydd yn bod, a'r hyn sydd wedi bod, ond yr hyn oll a fydd, ac a allasai fod. Rhaid i'r perffeithiau hyn gyd—gyfarfod yn ngwrthddrych ein haddoliad. A'r hwn a'i medd, "Dyna y Duw."

II. HEBLAW Y PRIODOLIAETHAU NATURIOL HYN A NODWYD, Y MAE PRIODOLIAETHAU MOESOL YN PERTHYN IDDO.

1. Am yr hwn sydd yn Dduw, rhaid ei fod yn gyfiawn. Nis gellwch feddwl am Dduw ac annghyfiawnder. Gall angel fod yn annghyfiawn, a dyn fod, ie, yn "farnwr annghyfiawn;" ond nid oes annghyfiawnder gyda Duw. Mae tybied ei fod felly yn rhoddi shock i'r meddwl dynol. "Duw cyfiawnder yw yr Arglwydd." Chwi ellwch gysgu yn bur dawel gyda'r meddwl na chewch byth un cam oddiar law Duw. Gellwch gael cam oddiar law eich cydgreaduriaid; er, ar y cyfan, nid wyf yn tybied y cei ryw lawer o gam; canys os cei gam oddiar law y naill ddyn, ti a gei fwy na chyfiawnder oddiar law y llall. Ond doed a ddelo ni chei di ddim cam oddiar law Duw. Ie, fe gaiff y cythreuliaid gyfiawnder oddiar ei law Ef. Ni fedrwn ni gydnabod neb yn Dduw nad yw yn gyfiawn. Yn wir, nis medrwn ni gydnabod neb yn ddyn iawn os na bydd yn gyfiawn; llawer mwy nis gallwn gydnabod Duw os na bydd yn berffaith gyfiawn. Oni wna Barnydd yr holl ddaear farn?" Gwna i'r manylrwydd eithaf; am hyny, "Dyna y Duw."

2. Rhaid ei fod yn sanctaidd; sef, yn gwbl wrthwyneb i halogedigaeth a drygioni; "yn lânach ei lygaid nag y gall edrych ar ddrwg." Dyna ddywed Duw, "Byddwch sanctaidd, canys sanctaidd ydwyf fi." Nis gall dyn, er bod yn bechadur, lai na chasâu yr halogedig. Mae Duw mor bell oddiwrth halogedigaeth ag ydyw oddiwrth annghyfiawnder; un fel yna y rhaid iddo fod cyn y gall fod "Y Duw." Priodoledd yr holl briodoliaethau yw ei sancteiddrwydd.

3. Rhaid iddo fod yn un doeth. Nis medrwch chwi ddim cydnabod un ynfyd yn Dduw. Mae pawb yn canmawl y doeth. Mae ffynonell doethineb yn y Duw sydd yn y nefoedd. "Yr unig ddoeth Dduw " yw. Nid doeth neb fel Efe. Mae doethineb pawb arall yn