Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/188

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gymysgedig â ffolineb; eithr yn Nuw ceir doethineb pur a digymysg.

4. Rhaid ei fod yn anfeidrol ddaionus. Dyna yw daioni neu haelfrydedd yn Nuw,—yr hyn sydd yn ei ogwyddo trwy bobpeth y mae yn ei wneuthur i gyrchu at ddedwyddwch ei greaduriaid. Y mae Duw yn anfeidrol ddaionus, yn dwyn oddiamgylch ryw ddaioni mawr nas gall neb ond Efe ei hunan ei amgyffred. Pan orpheno Duw adeiladu Sion, y da mawr hwn, " y gwelir Ef yn ei ogoniant." Am y cristion, gallwn ddyweyd fod peth da ynddo, a thipyn o ddrwg, ar y goreu. Ac am y pechadur, y mae rhywbeth dymunol ynddo, tra mae ynddo lawer o ddrwg. Nid oes dim drwg yn yr angel nefol, ond y mae efe fel creadur o hono ei hun yn agored i ddrwg. Drwg yw y cythraul heb ynddo ddim ond drwg. Nid wyf yn dywedyd mai drwg yw ei hanfod; pechod yn unig sydd felly; ond yr wyf yn dywedyd nad oes dim da ynddo. Eithr y Duw mawr, daioni anfeidrol sydd ynddo —heb ddim drwg na dim posiblrwydd i ddrwg. Mae Duw yn anfeidrol bell oddiwrth ddrwg. Mae mor anmhos bl iddo fod yn ddrwg, neu newid oddiwrth dda i ddrwg, ag yw iddo ddihanfodi ei hunan. Daioni yw, ac nid oes ynddo ddim ond daioni.

Wel, rhaid yw fod y perffeithiau gogoneddus yna yn y Duw mawr cyn y gallasem ei gydnabod yn Dduw. Mae y Duw hwn yn raslawn a thrugarog tuag atom ni sydd bechaduriaid. Mae arnom angen Duw daionus i faddeu ini. A dyma y Duw sydd yn cyfiawnhau yr annuwiol, ac yn derbyn pechaduriaid; yn "maddeu anwiredd a chamwedd a phechod." Duw yn medru maddeu, ïe, "Duw parod i faddeu" yw ein Duw ni. Yn awr, bechadur, os wyt ti yn deimladol o'th fod yn bechadur, "Dyma y Duw" i ti droi ato; medr daflu dy bechodau o'r tu ôl i'w gefn; mae yn Dduw cyfiawn ac yn Achubwr yn ei Fab, ac yn Dduw sydd yn sancteiddio yn a thrwy ei Yspryd. Mae arnat angen ei ddelw, ac y mae Efe, trwy ei Yspryd, yn ei rhoddi i'r rhai sydd hebddi. Pan ollyngo Duw ei Yspryd, yr adnewyddir wyneb y ddaear; gall beri i'r ddaear dyfu mewn un dydd. Medr dywallt dyfroedd ar y sychedig, a ffrydiau ar y sychdir.

Yr ydym ni wrth natur heb y Duw hwn, "Heb obaith, ac heb Dduw yn y byd." Dyma dy gyflwr; ond yr wyt