Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/189

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

heddyw mewn amgylchiadau yn mha rai mae Duw i'w gael. Mae yn bosibl i ni gael y Duw mawr hwn yn ei dangnefedd a'i heddwch. Y pechadur caled, onid oes arnat ddim ofn gwrthryfela yn erbyn y Duw mawr hwn? Gall efe arfogi yr holl greadigaeth i'th erbyn; ni raid iddo ddim ond edrych arnat i'th ddyrysu. Mae yn beth ofnadwy bod yn elyn iddo. Ond yn y Cyfryngwr mae yn "cymodi y byd âg ef ei hun, heb gyfrif iddo ei bechodau;" nid heb wybod eu bod yn bechaduriaid, nac heb wneyd iddynt hwythau wybod, ond heb eu chargio âg euogrwydd eu pechodau. Dyna y Duw! ac y mae hwn i'w gael yn Dduw i chwi. Mae eraill wedi ei gael. Fe_gymerodd ei Fab ein natur, ac fe ddaeth i'n deddfle. Derbyn dithau ei Fab, a thi a gei Dduw yn Dduw i ti. Dyna fel y dywedai Crist wrth y rhai a'i derbyniasant, "Fy Nuw i a'ch Duw chwithau." Mae hyn yn ymddangos i mi yn gysurus iawn. Mae yn y Duw mawr hwn barodrwydd i fod yn Dduw i'w greadur; mae yn hoffi cael bod yn Dduw i'n sort ni. Sut y gwyddoch chwi? Wele, y mae yn cyhoeddi nad oes neb arall a wna'r tro yn ei le Ef; ac y mae yn galw arnat i'w dderbyn yn Dduw i ti. Gan iddo dy wneuthur i fyw arno ef ei hunan, yr wyf yn tynu y casgliad fod yn bwrpas ganddo fod yn Dduw i'w greadur tlawd. Mae Duw yn ewyllysio yn dda i'w greaduriaid; yr holl ffrae sydd o herwydd pechod. Dewis di Ef yn Dduw i ti, ac Efe a'th gyfiawnhâ ac a'th sancteiddia. Dewis di Ef yn Dduw i ti ar y ddaear, a thi a'i cei yn Dduw i ti am dragwyddoldeb. Os oes ganddo Ef ryw bwrpas i fod yn Dduw i greaduriaid, a oes genych chwi ryw bwrpas i'w gael Ef? O'i gael ef yn Dduw, chwi fyddwch wedi cael digon. O fewn corph y dydd hwnw, ti gei ddigon am dragwyddoldeb. Dyna'r Duw! Llefwch ac ymdrechwch am ei adnabod. Mae yn foddlawn i fod yn Dduw i chwi: "A mi a fyddaf yn Dduw iddynt hwy, a hwythau a fyddant yn feibion ac yn ferched i mi, medd yr Arglwydd Hollalluog."

Mae yr hyn neu yr hwn sydd yn Dduw gan bawb yn effeithio arnynt. Mae duw pawb naill ai yn eu gwneuthur yn waeth neu yn well. Os credi i Arglwydd Dduw y nefoedd a'r ddaear, os gwasanaethi Ef yn ffyddlawn, ti wnei dy fortune am dragwyddoldeb. Gan fod y Duw hwn i'w gael yn Dduw i chwi yn awr, mynwch afael ynddo oll.[1]—AMEN.

  1. Y" Drysorfa," Chwefror, 1867.