Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/190

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PREGETH V.

ETO Y MAE LLE.

"A'r gwas a ddywedodd, Arglwydd, gwnaethpwyd fel y gorchymynaist; ac eto y mae lle."—Luc xiv. 22.

Y MAE yr Arglwydd Iesu, fel y cawn hanes yn nechreu y benod yma, wedi myned i dŷ Pharisead i fwyta bara. Yr oedd dyn yn glaf o'r dropsi yno, ac yr oeddynt yn gwylio yr Iesu a iachäai Efe ef ar y dydd Sabbath: ond iachau y dyn ddarfu yr Arglwydd, ac ateb yn bur fyr iddynt hwythau, pa un oedd yn iawn gwneuthur da ai drwg ar y dydd Sabbath.

Dywed wrthynt hefyd am beidio eistedd yn y lle uchaf, ac astudio pa fodd i ddyrchafu eu hunain; mai nid dyna y ffordd iddynt gyrhaedd hyny.

Hefyd pan wnelont wledd, am beidio a gwahodd y cyfoethogion, am fod modd ganddynt hwy i dalu yn ol; ond am iddynt wahodd y tlodion. Yr oedd yno ryw ddyn nad oedd yn perchen llawer o'r byd, mae'n debyg, ac yn meddwl wrth glywed hyn y byddai yn bur hapus pe oyddai wedi dyfod fel yna, ac atebodd yn bur hyf, "Gwyn fyd y neb a fwytao fara yn nheyrnas Dduw "—y byddai cyfle i bawb i gael eu lle a'u rhan. Ond y mae yr Arglwydd Iesu yn dangos mai nid felly y mae dynolryw yn gyffredin yn edrych. Gallech feddwl gan fod gwledd wedi ei darpar, fod yr efengyl yn gwahodd pawb iddi, y buasai pawb yn rhedeg at yr Arglwydd Iesu i'w derbyn. Ond a fynet ti ddyn wybod pa sut y mae? "Rhyw ŵr a wnaeth swpper mawr,"—wel yr oeddynt yn dyfod am y cyntafyr oedd y tŷ yn fawr, ac nid oedd eisieu dim ond eu cael hwy i'r wledd. "Ond hwy a ddechreuasant yn unfryd ymesgusodi." Esgusodi ydyw dyn yn ceisio taflu y bai oddiar ei ysgwyddau ei hunan ar ryw rai eraill,—peth ag y mae y natur ddynol yn bur chwanog iddo. Ond y mae brethyn eu hesgusodion hwy yn bur deneu—gwelir drwyddo yn bur hawdd. Yr oedd un yn dyweyd ei fod