Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/192

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

bechadur fel y cyfryw. "O deuwch i'r dyfroedd, bob un y mae syched arno.' "Trowch eich wynebau ataf fi holl gyrau y ddaear, fel y'ch achuber." Cymerwch fy iau arnoch a dysgwch genyf; canys fy iau sydd esmwyth, a'm baich sydd ysgafn." "Deuwch ataf fi bawb sydd yn flinderog ac yn llwythog, a mi a esmwythaf arnoch." Y mae galwad yr efengyl nid yn dy alw i'r farn i'th gospi, ond i dderbyn trugaredd, i'th "gyfiawnhau yn rhad trwy ei ras ef;" yn nhrefn yr efengyl, i dderbyn "maddeuant pechodau a chyfran ymhlith y rhai a sancteiddiwyd." Ai tybed y byddai yn fai i ni dynu dipyn o gysur yma? Y mae efe yn dy alw di. Nis gwn pa mor halogedig yr wyt wedi bod; cymer gysur y mae Efe yn dy alw di." Y mae y diafol am dy rwystro, a chwantau yn sefyll ar y ffordd, ond cymer galon, y mae Efe yn dy alw di; y mae yma le i bechadur fel Ꭹ mae.

Y mae yma le hefyd yn nhrugaredd Duw. Y mae "trugaredd yr Arglwydd ar ei holl weithredoedd;" y mae yn mhob man wedi ei thaenu dros y cwbl, a gwelwch hi bob amser. Y mae gan Dduw galon fawr, a'i llon'd o faddeuant. Y mae ei drugaredd yn nhrefn yr efengyl yn dyfod o werth mawr. Ymgeledda di yn y fath fodd, ag y byddi yn well i dragwyddoldeb o honi. Y mae trugaredd Duw yn ddiderfyn; y mae yn hoffi tosturio, ac yn ymofyn am le i drugarhau. Pwy a ŵyr pa beth a dal trugaredd Duw yn wyneb angen pechadur?

Nis gallaf fostio fy henafiaid; ond byddaf yn falch o'm Creawdwr Hollalluog—Hollwybodol. Pa faint a dal trugaredd Creawdwr i'w greadur? nis gwyr neb ond y Creawdwr ei hunan. Yn erbyn y Duw mawr yr wyf wedi pechu, ac y mae ganddo drugaredd yn ateb i'w fawredd. Y maent yn dyweyd mai dynion bach iawn ydyw y rhai anhawddaf ganddynt faddeu o bawb: ond am y dyn sydd a rhywbeth yn fawr ynddo, y mae maddeu yn hwnw os caiff ymostyngiad. Felly am y Duw mawr, y mae yn ymhyfrydu mewu maddeu i bechadur mawr.

Y mae yma le hefyd yn arfaeth Duw. Gyda pharch ac ymostyngiad sanctaidd y dylem son am hon; ond byddaf yn meddwl nad ydyw wedi ei heilio mor glos nad oes yma le i bechadur droi ei wyneb; o herwydd yn nhragwyddoldeb cyn bod y ddaear, penderfynodd Duw faddeu i bob pechadur edifeiriol, a chyfiawnhau pwy bynag a gredo. Y