Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/193

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

mae yma ddrws wedi ei agor na ddichon neb ei gau, os na chauwch chwi ef yn eich erbyn eich hunain. Nid oes dim wedi ei benderfynu yn erbyn pechadur mawr yn nhragwyddoldeb pell, ond y mae yma barotoad tuag at dy dderbyn di: y mae yn dy alw, cymer gysur.

Y mae yma le i ni yn haeddianau mawr y Cyfryngwr. Iawn mawr ydyw ei Iawn Ef; y mae yn "offrwm i Dduw o arogl peraidd." Y mae

"Wedi talu anfeidrol Iawn,
Nes clirio llyfrau'r nef yn llawn;
Heb ofyn dim i ni,”

Y mae y drefn wedi gwneyd y diffyg o'n tu ni i fyny. Buasai y cwbl wedi darfod, buasai pawb yn dyweyd ei bod yn rhy ddiweddar, pe buasai treulio ar anfeidroldeb; ond nid oes dim darfod ar beth felly, ac ni welir haeddianau y Cyfryngwr yn myn'd yn llai byth. Dyna fel y gwelwn ni fod Duw yn gwneyd yn mhob peth. Lle y mae angen mawr, y mae rhyw helaethrwydd mawr ar ei gyfer. Yr oedd eisieu awyr lawer ar y byd; y mae Duw wedi rhoddi deugain milldir o drwch o amgylch y ddaear. Paham yr oedd eisieu cymaint? Yr oedd eisieu llawer o awyr i'w anadlu, ac i'w buro wedi ei anadlu. Y mae y môr yn fawr iawn byddwn i yn arfer meddwl ystalm ei fod yn ormod, y buasai yma le braf i gael gweirgloddiau. Y mae o yn llon'd ei wely bob amser ar wlyb a sych; buasai yn rhaid gwlawio rhyw fôr bach i gael digon hyd yn oed o leithder i'r hen ddaear yma. Y maent yn dyweyd am yr haul ei fod yn fawr iawn; yr oedd eisieu un mawr, ac i ddiwallu anghenion mawr y mae Duw wedi ei wneyd; y mae yn ffynnonell ddihysbydd o wres a goleuni, a bydd felly holl ddyddiau y ddaear. Dyna fel y mae Haul mawr y Cyfiawnder, y mae yn anfeidrol ac annherfynol yn gystal a thragwyddol; y mae yma helaethrwydd mawr yn ei Aberth, a gwiwdeb sydd allan o derfyn ei fesur a'i bwyso gan blant dynion. Y mae yma helaethrwydd hefyd heb i ddim fyned yn ofer. Y mae wedi darparu ar gyfer dy eisieu di. Y mae genym Greawdwr yn Iawn.

Hefyd y mae yma le i ni yn ngweddïau yr eglwys. Y mae y duwiolion yn gweddio dros eu cymydogion yn wastad. Y mae yma rai heb feddwl fawr iawn am grefydd; ond y mae eraill wedi dyrchafu gweddi drostynt. Dymuniad