caru ei gyfraith a'i lywodraeth—caru Crist a'r efengyl—caru ei achos a'i bobl—caru yr hyn sydd dda a'i wneyd. Ond y mae cariad dynion yn fynych at ddedwyddwch fel "deisyfiad y dïog, ac ni chaiff ddim; oblegyd ei ddwylaw a wrthodant weithio."
2. Mae yr hwn sydd yn caru doethineb yn etifeddu sylwedd, oblegyd cyfaddasrwydd pethau doethineb i natur ac amgylchiad dyn. Mae doethineb a daioni y Creawdwr i'w gweled, nid yn unig yn nghreadigaeth pethau, ond yn nghyfaddasiad pethau i'w gilydd. Mae doethineb mawr i'w weled yn nghyfansoddiad yr aderyn, ac yn nghyfansoddiad y pysgodyn; ond y mae doethineb mwy i'w ganfod erbyn i ni ystyried cyfaddasrwydd cyfansoddiad y naill a'r llall o honynt i'w helfenau. Ac O! mor gyfaddas y mae cylla dyn ac anifail wedi eu gwneyd i wahanol ffrwythau y ddaear. Doethineb a wnai y naill ar gyfer y llall mewn canoedd o amgylchiadau cyffelyb. Felly, yr un ffunud, y mae cyfaddasder perffaith yn y Duw mawr a chynyrch ei ras i wneyd i fyny holl ddiffyg dyn fel creadur ac fel pechadur. Mae yn naturiol i ddyn garu. Tyn bron ei holl fwyniant o'r gwrthddrychau a gâr, ond y mae sylweddoldeb a pharhad y mwyniant hwnw yn ymddibynu ar gyfaddasrwydd a theilyngdod y gwrthddrychau. Nis gall y gwrthddrychau teilyngaf fod yn hapusrwydd iddo, heb eu caru; ac nid oes mwyniant sylweddol mewn gwrthddrychau annheilwng, er eu caru. Gall merch ieuange rinweddol garu a gwir garu gŵr ieuangc o ymddangosiad teg oddiallan, a myned ag ef i'r cyfamod priodasol, a theimlo yn ddedwydd yn ei gwmnïaeth dros yspaid; eithr os glwth a meddw, diog a diddefnydd, fydd efe, gwywa cicaion ei dedwyddwch yn fuan—nid am nad oedd yn caru, ond am nad oedd y gwrthddrych yn deilwng a chyfaddas. Ond pe byddai i ddau cyfaddas i'w gilydd fyned i'r sefyllfa hono heb gariad, nis gallent fwynhau dedwyddwch y sefyllfa. Y mae miloedd yn caru pechod, ac yn llawen yn ei gariad dros fyr amser—dros yr honeymoon—ond y mae yn berffaith amddifad o ddefnyddiau gwir ddedwyddwch. Ond am ddoethineb a'i phethau, y maent yn gwbl gyfaddas; nid oes eisieu ond eu caru, a thi a etifeddi sylwedd. Mae yma faddeuant i'r euog, ffynon i'r aflan, meddyginiaeth i'r afiach, gwisg i'r noeth, cyfoeth i'r tlawd, goleuni i'r tywyll—mae yma, mewn