gair, ddyn yn Iachawdwr i'r pechadur, a'r Creawdwr yn Dduw i'r creadur.
3. Mae yr hwn sydd yn caru doethineb yn etifeddu sylwedd, oblegyd fe gaiff ei wrthddrych. Nis gall fod yn glaf o gariad at ddoethineb a marw o'r clefyd hwnw, oblegyd efe a feddiana wrthddrych ei serch, "Y sawl a'm carant i," medd doethineb, "a garaf finau." Gall y cybydd garu aur ac arian, a methu eu cael; y balch garu parch ac anrhydedd, a hwythau yn cilio oddiwrtho. Câr llawer y rhai hyn fel y carai Paul y Corinthiaid, yr hwn a gwynai ei fod yn caru yn helaethach, ac yn cael ei garu yn brinach;" eithr nis gellir caru doethineb felly—y mae hi yn eiddo pawb a'i caro. Gwelir dynion weithiau yn gwywo i angeu gan wres eu serchiadau at wrthddrychau nas gallant eu meddinau; ond ni ddigwydd hyn i garwyr doethineb, oblegyd mwynhânt eu gwrthddrych, ac etifeddant sylwedd."
4. Mae yr hwn sydd yn caru doethineb yn etifeddu sylwedd, oblegyd fod yn natur caru Duw a'i bethau reoleiddio gweithrediadau y serchiadau at bob is—wrthddrychau. Mae y byd hwn yn llawn o wrthddrychau y gellid, ïe, y dylid eu caru. Nid yn unig y mae yn gyfreithlawn, ond fe ddylai y gŵr garu ei wraig, a'r wraig y gŵr; y rhieni y plant, a'r plant y rhieni; ac nid oes yr un o greaduriaid Duw na ddylid eu caru i ryw fesur yn ol eu teilyngdod ynddynt eu hunain, a'u perthynas â ni; ond dyn, wedi colli delw Duw fel prif wrthddrych ei serchiadau, yr hwn y dylai ei garu â'i holl galon, i'r hyn hefyd y lluniwyd ac y gwnaethpwyd ef, sydd yn naturiol yn myned i garu rhywbeth â'i holl galon; ond nid oes teilyngdod mewn un gwrthddrych heblaw Lluniwr y galon:—er y dylai y wraig garu ei gŵr, eto ni wna, pa mor dda bynag, ond duw gwael iddi; ac er y dylai y gŵr garu ei wraig, ni wna hithau fawr gwell duwies iddo yntau na Diana; er y dylai y rhieni garu eu plant, eto i ymddiried ynddynt, a rhoddi yr holl galon arnynt, nid ydynt fawr well na phren a maen. Fe ddylid caru trugareddau Duw. Pe byddai un mor ddifater am drugaredd y bywyd hwn nad gwaeth ganddo pa un ai llwm ai llawn fyddai, deuai "tlodi arno fel ymdeithydd, a'i angen fel gŵr arfog," ac ni byddai ond canlyniad naturiol ei ddifaterwch; ond ni theilynga pethau y ddaear eu caru â'r holl galon, ac ni wna aur ac