Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/199

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

arian dduw, ac nid gwell ymgrymu iddynt nag i foncyff o bren. Eithr yr enaid sydd yn caru Duw â'r holl galon a etifedda y sylwedd sydd yn ngwrthddrych ei serch, ac a ochel y gofid sydd mewn caru pethau eraill yn annghymedrol. Mae y dyn sydd yn caru y byd yn cael ei sychu i fyny fel na chai ddim ond y byd; ond nid yw y dyn sydd yn caru Duw felly, oblegyd y mae perthynas rhwng Duw a phob peth arall y dylid eu caru, a theimlad cynhes yn yr enaid sydd yn caru Duw â'i holl galon at bob gwrthddrych yn ol graddau eu teilyngdod yn y berthynas hono. Nid yw y gŵr a'r wraig sydd yn caru eu gilydd o flaen pawb eraill, oblegyd hyny yn ddiserch at eu plant a'u teulu, cymydogion a pherthynasau; ond carant hwynt yn burach, a gweinyddant unrhyw garedigrwydd iddynt gymaint a hyny yn gynt.

5. Mae yr hwn sydd yn caru doethineb yn etifeddu sylwedd, oblegyd fod y gwrthddrychau y mae yn eu caru yn wrthddrychau disiomedig ac annghyfnewidiol. Mae llawer iawn o drueni y byd hwn yn gynwysedig mewn siomedigaethau i rai yn ngwrthddrych eu serchiadau. Mae y ffynon sydd yn rhoddi dwfr cysur yn rhoddi dyfroedd chwerwon gofid hefyd. Mae y gwŷr a'r gwragedd yn gorfod rhoddi y naill y llall yn y bedd, y plant a'r rhieni yn claddu eu gilydd, y gŵr a alara am ei wraig a'r wraig am ei phriod, a'r rhieni, fel Rahel, a wylant am eu plant, ac ni fynant eu cysuro am nad ydynt. Gwelir y cybydd weithiau wedi colli ei arian cyn ei farw, a chyfoeth wedi cymeryd ei adenydd ac ehedeg fel eryr tua'r wybr oddiar y rhai fu yn ei fwynhau gyda hoffder. Bydd y cybydd yn sicr o fod hebddynt yn y byd tragywyddol, ond nid heb ei gybydd—dod, a'r balch yno heb ei anrhydedd, ond nid heb ei falchder; ond "iachawdwriaeth a fydd byth," "cyfiawnder ni dderfydd." "Gwynfyd y gŵr a gaffo ddoethineb, ac a ddyco ddeall allan;" oblegyd y rhai hyn a fyddant etifeddiaeth iddo dros byth. Dywedai un wraig a adwaenwn am dŷ oedd ganddi ar lease, "Ni bïau hwn tra byddwn ni byw; ond," gan gyfeirio at dŷ arall oedd ganddi trwy bryniant, dywedai, "ni bïau hwn acw byth." Nid pethau ar lease yw pethau doethineb, ond eiddo tragwyddol i'r sawl a'u caro. "Y Duw hwn fydd ein Duw ni byth ac yn dragywydd." Yr ydym ni yn cyd-ofidio â'n cyfeillion mewn gofid, ac felly i raddau yn gyfranog o'u gofidiau; ond y Q mae Duw uwchlaw gofid. Y mae trueni iddo ef, ac iddo ef yn unig, yn anmhosibl, oblegyd hyny nis gallwn fod yn druenus yn nhrueni prif wrthddrych ein serchiadau, os byddant wedi eu sefydlu arno ef, oblegyd dedwydd byth a fydd efe. I Dduw hefyd y perthyn anfarwoldeb. "Iesu Grist ddoe a heddyw yr un ac yn dragywydd." Nis gall yr hwn sydd yn caru Duw fel ei Dad fod yn amddifad, na'r hwn sydd yn caru Crist fel ei Briod fod yn weddw. Gwraig weddw unwaith yn galaru am ei phriod, ac yn ocheneidio yn drom ei chalon gyda'i phlentyn amddifad, wrth yr hwn y soniasai lawer am ei Duw, a ofynwyd iddi gan ei phlentyn, "Paham yr ydych mor bruddaidd, fy mam?" "Dy dad a fu farw, fy mhlentyn." Gofynai yntau, "A ydyw Duw hefyd wedi marw, fy mam?" "Nac ydyw, fy mhlentyn," meddai, a dygai gofyniad y plentyn i'w chof fod prif wrthddrych ei serchiadau yn aros wedi i'r gŵr drengu i ofalu am dani. Y mae Duw yn werth i'w garu â'r holl galon, ac yn cynal ei garu â'r holl galon, a nefoedd ar y ddaear yw rhoddi y lle mwyaf iddo yn y serch. Nid oes dim ond efe na byddwn ni yn waeth o roddi y lle mwyaf iddo yn ein serchiadau; ond etifeddu sylwedd ydyw ei garu ef.

"A mi a lanwaf eu trysorau." Wrth drysorau yma yr ydwyf yn golygu lle y trysor. Er mai creadur bychan yw dyn, y mae yn cynwys llawer. Er nad yw ei anghenion amserol ond bychain, y mae ei ddymuniadau yn fawrion ac yn eang. Y mae yn hawdd digoni natur; ond nis gellir boddloni chwant. Ni ddywed y cybydd byth "digon," am nas gall aur ac arian lenwi ei ddymuniadau. Y mae gwŷr y pleser yn gwaeddi "Melus, moes eto." Tybia y meddwon y tynant yr Iorddonen i'w safn pe byddai ddiod gref. Pe byddai "Asia a'r byd oll" yn addoli y balch, gallai ddymuno ychwaneg o anrhydedd. Pa beth, ai nid oes gan y cybydd ddigon o aur ac arian i brynu ei angenrheidiau? Paham nad ymfoddlonai ar hyny? Yr ateb yw, y mae yn gallu dymuno ychwaneg. Ymddengys nas gellir llanw y lle a gadwodd y Duwdod iddo ei hunan yn nghalon ei greadur â dim ar a grëodd Duw—nid oes a'i cyflawna ond holl gyflawnder Duw. Mae cyfoethogion y byd yn nghanol eu cyfoeth yn aml yn annedwydd, am eu bod yn gallu dymuno yr hyn nid yw ganddynt; ond y neb a gafodd Dduw a gafodd ddigon, am Q nad oes arno eisieu ychwaneg, ac am nas gall ddymuno mwy. "Holl lafur dyn sy dros ei enau: eto ni ddiwellir ei enaid ef â dim a welo." Traffertha dyn yn y fuchedd hon —y mae blinder arno wrth ymgyrhaedd am wrthddrychau ei ddymuniadau; ond yn y nefoedd, bydd y saint wedi eu diwallu yn berffaith o'u holl eisieu, ac wedi cael cymaint nas gallant ddymuno mwy. Dywedant, pan welant Iesu fel y mae, a phan byddant gwbl debyg iddo, "Wele, digon yw." "Mi a lanwaf eu trysorau."[1] arian dduw, ac nid gwell ymgrymu iddynt nag i foncyff o bren. Eithr yr enaid sydd yn caru Duw â'r holl galon a etifedda y sylwedd sydd yn ngwrthddrych ei serch, ac a ochel y gofid sydd mewn caru pethau eraill yn annghymedrol. Mae y dyn sydd yn caru y byd yn cael ei sychu i fyny fel na chai ddim ond y byd; ond nid yw y dyn sydd yn caru Duw felly, oblegyd y mae perthynas rhwng Duw a phob peth arall y dylid eu caru, a theimlad cynhes yn yr enaid sydd yn caru Duw â'i holl galon at bob gwrthddrych yn ol graddau eu teilyngdod yn y berthynas hono. Nid yw y gŵr a'r wraig sydd yn caru eu gilydd o flaen pawb eraill, oblegyd hyny yn ddiserch at eu plant a'u teulu, cymydogion a pherthynasau; ond carant hwynt yn burach, a gweinyddant unrhyw garedigrwydd iddynt gymaint a hyny yn gynt.

5. Mae yr hwn sydd yn caru doethineb yn etifeddu sylwedd, oblegyd fod y gwrthddrychau y mae yn eu caru yn wrthddrychau disiomedig ac annghyfnewidiol. Mae llawer iawn o drueni y byd hwn yn gynwysedig mewn siomedigaethau i rai yn ngwrthddrych eu serchiadau. Mae y ffynon sydd yn rhoddi dwfr cysur yn rhoddi dyfroedd chwerwon gofid hefyd. Mae y gwŷr a'r gwragedd yn gorfod rhoddi y naill y llall yn y bedd, y plant a'r rhieni yn claddu eu gilydd, y gŵr a alara am ei wraig a'r wraig am ei phriod, a'r rhieni, fel Rahel, a wylant am eu plant, ac ni fynant eu cysuro am nad ydynt. Gwelir y cybydd weithiau wedi colli ei arian cyn ei farw, a chyfoeth wedi cymeryd ei adenydd ac ehedeg fel eryr tua'r wybr oddiar y rhai fu yn ei fwynhau gyda hoffder. Bydd y cybydd yn sicr o fod hebddynt yn y byd tragywyddol, ond nid heb ei gybydd—dod, a'r balch yno heb ei anrhydedd, ond nid heb ei falchder; ond "iachawdwriaeth a fydd byth," "cyfiawnder ni dderfydd." "Gwynfyd y gŵr a gaffo ddoethineb, ac a ddyco ddeall allan;" oblegyd y rhai hyn a fyddant etifeddiaeth iddo dros byth. Dywedai un wraig a adwaenwn am dŷ oedd ganddi ar lease, "Ni bïau hwn tra byddwn ni byw; ond," gan gyfeirio at dŷ arall oedd ganddi trwy bryniant, dywedai, "ni bïau hwn acw byth." Nid pethau ar lease yw pethau doethineb, ond eiddo tragwyddol i'r sawl a'u caro. "Y Duw hwn fydd ein Duw ni byth ac yn dragywydd." Yr ydym ni yn cyd-ofidio â'n cyfeillion mewn gofid, ac felly i raddau yn gyfranog o'u gofidiau; ond y

  1. Gwel y "Geiniogwerth," Hydref, 1850.