Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/204

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

felly nid ydyw y gongewest y darfu y diafol ei henill ar ddynolryw ddim yn un deg iddo deyrnasu.

2. Y mae hon yn feddiant o hunan-ymroddiad i'r diafol. Nid oes gan ddyn ddim hawl i roddi ei hunan i neb yn groes i ewyllys ei Greawdwr: ond, ar yr un pryd, y mae ganddo ryw lun o allu i wneyd hyny. Y mae Duw wedi rhoddi i ddyn ryw feddiant arno ei hunan sydd yn gosod gallu ynddo i roddi ei hunan at y gwasanaeth a glywo ar ei galon. Gall roddi ei aelodau yn arfau annghyfiawnder i bechod;" pa fodd y gwyddoch hyny? Y mae yn gwneyd hyny, am hyny pa fodd y rhaid fod neb heb wybod. Ond nid oes ganddo ddim hawl, y mae yn troseddu cyfraith cyfiawnder wrth wneyd. Nid ydyw hynyna chwaith ddim yn sound, ond dyna ydyw meddiant y tywyllwch. Mae gan y diafol orsedd yn y byd, a gorsedd ar galonau plant dynion, cynifer ag sydd yn ei feddiant.

II. Y WAREDIGAETH. Ond pa beth ydyw y waredigaeth? "Yr hwn a'n gwaredodd ni o feddiant y tywyllwch." Wel y peth mawr, mawr, sydd arnom ni eisieu yn y byd, cyn myn'd o hono ydyw, y peth a alwai yr hen bobl y "tro mawr," ein "troi ni o dywyllwch i oleuni, ac o feddiant Satan at Dduw." Dyma ydyw, diangfa gyfreithlon oddiwrth y condemniad sydd ar satan ac ar holl ddeiliaid ei lywodraeth, a diangfa hefyd o'r slavery caled o wasanaeth y diafol a phechod: ac y mae hyn yma yn beth mawr iawn. Os marw wneir yn meddiant y tywyllwch ni bydd genym ddim i etifeddu ond yr un lle a'r diafol yn y pen draw. Y lle sydd wedi ei barotoi i ddifol a'i angylion fydd ein lle, os marw wnawn yn ei feddiant. Y mae yn cael ei alw yn "feddiant y tywyllwch," o herwydd fod y diafol yn ffeindio po dywyllaf fydd ei deyrnas ef, diogelaf fydd ei deiliaid. Mae rhyw gydwybodolrwydd yn ei feddwl ef nad ydyw pethau ddim yn iawnnad ydyw pethau ar sail gyfiawn ac uniawn, ac nad oes neb sydd yn ei wasanaeth ef ar eu mantais; am hyny y mae yn ofalus iawn rhag i neb gael y goleuni, rhag iddynt deimlo yn anesmwyth, oblegyd gŵyr ef nad all eu cadw yn ei wasanaeth ond waethaf yn eu gên. Pan deimlant nad ydyw pob peth yn dda, am hyny y mae am eu cadw mewn digon o dywyllwch ac anwybodaeth. Y mae teimlad cyffelyb mewn dyn gyda golwg ar ei bechod. Dywed yr Arglwydd Iesu Grist, "A hon yw y ddamnedig-