Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/205

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

aeth, ddyfod goleuni i'r byd;"—na dyna y waredigaeth,— ond, "a charu o ddynion y tywyllwch yn fwy na'r goleuni." Pa fodd y mae dynion yn actio mor afresymol? Yn wir, nid yw dynolryw ddim yn eu cof yn iawn gydag un peth y mae pechod y gwâll yma—yn wallgofrwydd ar ddyn. Dywedir fod rhyw mono-mania yn bod, hyny ydyw, yn wallgof mewn rhyw un peth; bydd rhai weithiau felly. Dyma un peth y mae plant dynion yn wallgof ynddo oll, "caru y tywyllwch." Y mae dyn yn naturiol yn caru y goleuni, "Melus yn ddiau ydyw y goleuni, a hyfryd ydyw i'r llygaid weled yr haul." Beth ydyw y gwall sydd ar ddyn, ynte, ei fod yn caru pechod? Y mae mewn ystyr foesol yn caru y tywyllwch ac yn casau y goleuni. Pa fodd y mae yn actio mor afresymol ac annghyson ag ef ei hun? Dyna ydyw yr achos, "o herwydd fod ei weithredoedd yn ddrwg." Y mae gan ddyn gydwybodolrwydd mai un hagr a drwg ydyw pechod, ac mai melus ydyw yn ei enau, ond y mae am gael y lle tywyllaf i'w gyflawni.

III. HEFYD Y MAE YMA DEYRNAS ANWYL FAB DUW. Pa beth yw hon? Y mae yn cael ei galw weithiau yn "Deyrnas Dduw;" "Teyrnas amynedd Duw;" "Teyrnas Dduw a'i gyfiawnder Ef." Mae yn beth rhyfedd iawn i'r Duw mawr oddef pechod i gymeryd lle, a goddef y gwrthryfel, ac na buasai yn peidio a chreu creadur rhesymol a welai y Duw mawr a wrthryfelai. Yr wyf yn meddwl na chawsai gymeryd lle, ond y mynai Duw ogoneddu ei ras mewn cadarnhau gorsedd-faingc a theyrnas ei Fab i wrthsefyll holl niweidiau teyrnas y tywyllwch. Beth a wnaeth, ond sefydlodd, sylfaenodd hon yn gyfiawn ac uniawn yn Nghyfryngwr mawr y Testament Newydd, ac y mae hon mor nerthol ag y bydd iddi wrthsefyll holl allu meddiant y tywyllwch. Mae Mab Duw wedi ymddangos yn y byd i ddattod gweithredoedd diafol," a bydd ei deyrnas wedi ei dinystrio bob yn dipyn. Teyrnas anwyl Fab Duw aiff rhagddi ac a lwydda. Ni bydd brenin y deyrnas ddrwg yma ddim yn frenin o hyd,—ni chaiff y sway y mae yn gael yn awr yn hir. Bydd wedi ei orchfygu a chau arno yn fuan. Y mae yn awr yn gwneyd llawer iawn o orchestion, ac y mae yn cael llawer at ei wasanaeth na fuasai yn cael y degwm oni bai ei fod yn cael y dyn at y gwaith. Ond mae Duw wedi