sylfaenu teyrnas gras ac amynedd Duw, ac wedi ei sylfaenu yn ei gyntaf—anedig, ac yn ei unig-anedig y bydd yn gosod ei phyrth hi. Y mae y deyrnas yn deyrnas i Dduw; arferir amynedd mawr at y deiliaid gwrthryfelgar. Teyrnas ydyw i'r deiliaid gwrthryfelgar i ffoi iddi, ac nid oes neb yn 'safe' ond wedi ffoi yma. Rhaid dy gael i dir Emanuel. Nid yw yn groes i lywodraeth fawr y Jehofah. Trefn y llywodraeth fawr ydyw fod i'r enaid a becho farw, sef fod i'r neb fyddo yn euog o fai ddioddef ei gospi yn ol haeddiant y bai hwnw; ond yn nhrefn teyrnas gras Duw, y mae yr euog yn diangc, y mae y diniwed wedi ei ddal, "y Cyfiawn yn lle yr annghyfiawn." Teyrnas odidog iawn yw hon. Y mae Brenin y deyrnas wedi marw, i'r deiliaid i gyd gael eu bywyd; ffo yma, a byddi yn safe. Nid oes neb o ddeiliaid teyrnas gras wedi ufuddhau yn berffaith i'r gyfraith yn eu personau eu hunain; y mae y Brenin wedi gwneyd hyny. "Efe a fawrhaodd y gyfraith, ac a'i gwnaeth hi yn anrhydeddus." Ie, y mae y Duw mawr yn maddeu, a phasia heibio i fyrdd o feiau yn y rhai sydd yn ffoi yma am eu bywyd—diangant byth gan eu Barnwr:—act ydyw hon sydd yn agor drws o obaith i bechadur tlawd; yma y maddeuir iddo ei ddrwg, ac y derbynir ef i heddwch a ffafr Duw.
Mae amrywiol iawn o ragorfreintiau yn perthyn i'r deyrnas hon nad ydynt i'w cael un ffordd arall. Yma y mae Duw yn gyfiawn ac yn cyfiawnhau y neb sydd o ffydd Iesu." Byddi dan gondemniad cyfraith Duw byth yn mhob man arall, nes dy ddyfod i deyrnas anwyl Fab Duw. Tu allan i'r deyrnas yma yr wyt yn gondemniedig gan yr unionaf o gyfreithiau, ac yn wrthryfelgar yn erbyn y llywodraeth unionaf sydd bosibl; ond yn nheyrnas anwyl Fab Duw y mae dy fywyd i ti i'w gael. Dywed cyfiawnder, "Gollwng ef yn rhydd, myfi a gefais Iawn gan Frenin y deyrnas. Dywed y ddeddf wrtho, "Nid wyf finau yn dy gondemnio," yr wyf wedi cael boddlonrwydd yn Nhywysog iachawdwriaeth y creadur tlawd:"—"Yr wyf finau," meddai Duw, "yn foddlawn er mwyn cyfiawnder fy anwyl Fab."—Mae wedi diangc byth gan ei Farnwr.
Hefyd, y mae y fendith fawr o faddeuant pechodau yn cael ei hestyn i ddeiliaid y deyrnas yma. Gellir dywedyd am hyny, "Maddeuir anwiredd y rhai a drigant ynddi."