Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/207

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Nis gellir dyweyd hyny am ddynion y ddaear. Er fod yr Arglwydd yn drugarog iawn, er ei fod yn hoffi maddeu a chuddio bai, ac yn Dduw parod i faddeu, ni faddeua i bawb. Y mae miloedd, a miliynau hefyd, mae'n ofidus meddwl, yn perthyn i deyrnas fawr y Duwdod na fyn Duw faddeu iddynt; ni ddaethant i'r drefn—i gyd—ffurfiad â'r plan. Nid oes edifeirwch na maddeuant y tu allan i deyrnas anwyl Fab Duw. Ond y mae Brenin y deyrnas hon yn Dywysog wedi ei ddyrchafu, "i roddi edifeirwch i Israel a maddeuant pechodau :" ond rhaid dy gael i dir Emanuel er hyny. Mae hyn yn beth mawr i ni ddynion. Peth difrif i ddyn ydyw bod yn bechadur; nid ydyw y cythraul ond pechadur; y mae yn bechadur hên, mae'n wir, a brwnt iawn. Nid oes dim dymunol ynddo; y mae rhywbeth go ddymunol mewn llawer o ddynion er eu holl ddrwg; ond un atgasrwydd ydyw y diafol; ond, ar yr un pryd, nid ydyw plant dynion ddim yn dduwiol nes y byddont wedi derbyn maddeuant pechodau. Y mae eu hachos yn ddrwg, a'u cyflwr yn anaele, nes dyfod i deyrnas anwyl Fab Duw. "Gwyn fyd y neb y maddeuwyd ei drosedd ac y cuddiwyd ei bechod; gwyn fyd y dyn ni chyfrif yr Arglwydd iddo anwiredd." Nid oes yr un o'r gwynfydedigion hyn i'w cael ond yn nheyrnas anwyl Fab Duw; ac os oes rhywbeth a fynoch a maddeuant, dyma y fan am dano. Y mae ychydig o bethau mewn rhyw fanau penodol o'r byd, ond y mae pethau eraill i'w cael yn mhob man. Dwg Duw fara allan o'r ddaear bron yn mhob man, ond y mae rhai pethau na cheir ond mewn rhyw un cwr o'r byd. Felly maddeuant pechodau, y mae i'w gael yn unig yn nheyrnas anwyl Fab Duw, a rhaid dy gael yno cyn y ceir ef, "Maddeuir anwiredd pawb a drigant ynddi;" ac ni faddeuir anwiredd neb ond a drigant yno.

Sancteiddir hwy yno. Y mae Yspryd Duw yr hwn a'u gwnaeth, ac anadl yr Hollalluog yr hwn a'u bywiocaodd; yn eu bywhau yn holl bethau teyrnas Dduw; ac yn wir mae cael Yspryd Duw i'n mendio yn beth mor fawr ynddo ei hunan a chael Duw i'n cyfiawnhau. Y mae dyn wrth natur nid yn unig wedi ei gondemnio i farw, ond y mae afiechyd marwol wedi cymeryd gafael yn ei natur ef, ac heb i Yspryd Duw ei feddyginiaethu trwy rinwedd y feddyginiaeth sydd yn yr efengyl, bydd hwnw yn ddigon am ei