Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/208

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fywyd. Nid ydyw Duw yn cyfiawnhau neb ond y rhai sydd o ffydd Iesu, ac nid ydyw ffydd Iesu yn neb heb ei chwmpeini. Ni buasai ond haner peth i ti gael dy gyfiawnhau, ond mae Iesu Grist yn feddyg a "ddichon hefyd yn gwbl iachâu y rhai trwyddo ef sydd yn dyfod at Dduw, gan ei fod ef yn byw bob amser i eiriol drostynt hwy."

Hefyd y mae arweiniad i'w gael yn y deyrnas hon. Addewid fawr iawn ydyw hon. Dywedir am Ysbryd Duw ei fod yn tywys i bob gwirionedd, a'i fod yn arwain hyd y diwedd hefyd. Nid afraid i neb o greaduriaid rhesymol Duw ydyw dylanwad yr Yspryd mawr. Nid oes na dyn nac angel yn safe yn eu nerth eu hunain. Rhaid i bob creadur rhesymol sydd mewn bod, cyn y bydd yn ddyogel, fod yn llaw Duw. Dyn wedi colli Duw a gwrthryfela yn ei erbyn―dyn anianol heb fod ag Yspryd Duw ganddo— sydd mor siwr o fyn'd o'i le ag iddo ysgogi; ond y mae Yspryd y deyrnas yn tywys y pererinion i bob peth da, a hyd y diwedd hefyd. Os oes rhyw le lawer gwell ar yr hen ddaear yma na'i gilydd, ni ryfeddech wel'd dynion yn gwerthu y cyfan i feddianu hwnw; ond nid oes ond manteision ac anfanteision i'w cael yma ar y goreu; ond dyma le eang iawn yn llywodraeth y Duwdod mawr wedi ei neillduo i ddwylaw y Cyfryngwr, y mae yn lle i enill ynddo mewn pob modd heb golli dim sydd yn werth ei gadw. Mae dy fywyd yn safe, bydd dy obaith wedi ei seilio yn dda, bydd saig dy fwrdd yn saith mwy—ti gei lawenydd yn dy galon "mwy na'r amser yr amlhaodd ŷd a gwin" yr annuwiol.

Hefyd, y mae yr amddiffyn i'w gael yn nheyrnas anwyl Fab Duw. Y mae yn beryglus iawn yn mhob man arall. Nid oes ond rhyw gam rhyngot ag uffern yn mhob man arall; nid oes ond anadl einioes rhyngot a myn'd i dragwyddol wae yn mhob man arall; ni byddai ond i'th droed lithro ar ryw lethr, neu i'th geffyl drippio danat, na byddet mewn tragwyddol wae. Ond am y cyfiawn caiff bob peth gydweithio er daioni iddo, a chaiff fod yn fwy na choncwerwr ar ei holl elynion.

Hefyd, y mae y deyrnas hon yn arllwys ei deiliaid i gyd i'r nef. Rhaid dy gael i hon, cyn y gweli deyrnas gogoniant. Pe cawn i fyn'd i ogoniant wedi darfod a'r fuchedd hon, byddai yn dda iawn; wel, rhaid dy gael i