Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/209

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

deyrnas gras yn gyntaf: felly y mae nid yn unig yn bod, ond felly y mae i fod. "Yr Arglwydd a rydd ras a gogoniant, ni atal Efe ddim daioni oddiwrth y rhai a rodiant yn berffaith." Y mae teyrnas gras yn arllwys ei ei deiliaid i ogoniant o hyd; fel y delont yn aeddfed, y maent yn slippio i ogoniant. Y mae y saint yn diangc yn filoedd o deyrnas gras. Ac os dymunet fyned i'r hen deml fawr tŷ dy dad—" lle mae llawer o drigfanau "rhaid dy gael i'r porth yma.

Hefyd, y mae peth fel hyn yn dyweyd fod deiliaid y deyrnas yma yn safe o ran eu bywyd. Y mae symud a gwaredu yn bod o feddiant y tywyllwch i deyrnas anwyl Fab Duw; ond nid oes rhai yn llithro o deyrnas anwyl Fab Duw i deyrnas y tywyllwch. Gwelais ryw dro gate yn agoryd i fyned allan o ardd bwystfilod: agorai i barc oedd o amgylch yr ardd—ond unwaith yr aech allan drwodd, nid oedd modd dyfod drwy yr un gate yn ol. Nid ydyw y porth sydd yn derbyn pechaduriaid i mewn i deyrnas Mab Duw yn agor i ti fyned allan, nid ydyw hyny yn ol rheol y deyrnas. Y mae dy fywyd yno yn ddiogel yn rhwymyn y bywyd gyda Christ yr Arglwydd.

Hefyd, nid ydyw y deyrnas yma ddim yn bod erioed. Er pan y mae gan Dduw greadigaeth y mae ganddo lywodraeth; ond nid ydyw teyrnas anwyl Fab Duw yn bod erioed. Cynlluniodd Duw hi er tragwyddoldeb, ond nid oedd deiliaid ynddi cyn y dyn cyntaf a edifarhaodd. Yr oedd Duw yn nhragwyddoldeb wedi gosod ei Fab i fod yn ben arni yn y natur ddynol, cyn cymeryd ein natur ni. Nid ydyw i fod yn dragwyddol fel y mae y mae symudiadau i fod iddi. Y mae y Brenin yn myned i roddi y deyrnas i fyny i Dduw a'r Tad, wedi dileu pob pendefigaeth, a phob awdurdod, a nerth, a bydd Duw oll yn oll. Ni bydd dim ond un deyrnas yn bod wedi hyny. Bydd Duw yn ngoruchwyliaeth cyflawnder yr amseroedd yn crynhoi yn Nghrist yr holl bethau sydd yn y nefoedd ac ar y ddaear ynddo ef; bydd dynion ac angylion, cerubiaid a seraphiaid wedi eu casglu at eu gilydd yn un deyrnas ddedwydd, a'i holl wrthryfelwyr wedi eu rhoddi yn y carchar tywyll—nid hyd y dydd mawr—ond o hyny allan. Beth am hyny? Wel, anwyl gyd-ddyn, rhaid i ti dendio yr adeg, rhaid dy gael ynddi cyn y bydd Mab Duw yn dywedyd, "Wele fi a'r plant a roddes Duw imi." Y mae