Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/210

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ein hadeg i ddyfod i'r deyrnas yma yn fyr iawn. Caua angeu y drws yn fuan arnynt yn y bedd, lle nad oes moddion, nac ordinhadau, na gweithrediadau, ar feddyliau neb gan Yspryd Duw; ni byddi mewn sefyllfa i'th enill i'r deyrnas os profi angeu unwaith; na, y mae hwnw yn dy drosglwyddo i afael marwolaeth dragwyddol.

Pechaduriaid ydym oll; ond y mae yma noddfa yn nheyrnas anwyl Fab Duw y tâl i ti droi dy wyneb yma. "Yr wyf fi wedi gwrthryfela llawer yn erbyn anwyl Fab Duw," meddai rhywun. "Tro dy wyneb yma; maddeuir i ti y cwbl, ac ni chei faddeuant ar gyfrif neb ond yn enw yr hwn sydd Dywysog maddeuant;" tro dy wyneb yma, ac ymddygir yn anrhydeddus iawn; un honourable iawn ydyw Duw—maddeua i ti yn llawn—maddeua i ti o'i galon heb edliw beiau; pe baet yn dechreu cyffesu yn dy erbyn dy hun dy anwireddau i'r Arglwydd, maddeua i ti heb son am yr un. Teyrnas a ddeil y goleuni ydyw hon, y mae wedi ei sylfaenu mewn cyfiawnder, ac wedi ei chadarnhau mewn barn.[1]

  1. Ysgrifenwyd wrth ei gwrando gan Mr. HUGH JONES, Dolgellau.