Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/211

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PREGETH VIII

YSGARU YR HYN A GYSYLLTODD DUW.

O herwydd paham, nid ydynt mwy yn ddau, ond yn un cnawd. Y peth gan hyny a gysylltodd Duw, nac ysgared dyn.—MATTH. xix. 6. Y FFORDD y mae rhai yn ei chymeryd i golledigaeth ydyw ceisio cysylltu y pethau na chysylltodd Duw, ond y ffordd a ddewisa ereill ydyw ysgaru y pethau a gysylltodd Efeac nid rhyw lawer o ddewis sydd rhwng y naill a'r llall; y mae y naill fel y llall yn arwain i ganlyniadau tra anhyfryd.

Y mae y Phariseaid yn gofyn i'r Arglwydd Iesu, yn yr adnodau blaenorol, a oedd yn gyfreithlawn i ddyn ysgar a'i wraig ar bob achos. Yr oeddynt hwy yn ysgar â'u gwragedd; Moses wedi caniatâu hyny iddynt o herwydd calon—galedwch. Ond yr oedd dadl yn eu plith pa mor lleied oedd yr achos i fod: a oedd yn iawn ysgar â gwraig ar gyfrif pethau lled ddibwys.

Y mae Iesu Grist yn dyweyd mai yn wrryw a benyw yr oedd Duw wedi eu creu hwynt, ac nad oedd gan Adda ddim cyfleustra i gael llawer o wragedd; a phe buasai yn ysgar âg Efa, na buasai yr un iddo gael yn ei lle—mai un gŵr ac un wraig oedd wedi eu creu. Dywed hefyd eu bod yn un cnawd. A chan fod y peth hwn felly, mai peth pechadurus iawn oedd i ddyn ysgar y peth oedd Duw wedi gysylltu. Y mae dynolryw wedi bod yn treio pob ffordd yn lle yr iawn ffordd, ond nid oes neb yn llwyddo trwy amrywio o drefn yr Hollalluog. Y mae i chwi sydd yn ieuangc ryddid i ystyried cyn gwneyd beth yr ydych yn myned i'w wneyd. Yr ydych yn rhydd i beidio a phriodi am eich hoes, os ydych yn dewis; ond os eir i'r undeb a'r cyfamod yma, nid ydyw i'w dori. Gallai fod yn fyd digon anniddig rhwng ambell bâr, o herwydd rhyw fai o un ochr os nad o'r ddwy; ond drwg mwy a ddeuai o'r ysgariaeth—tyfai pob rhyw ymryson yn ffrae fawr. Y mae y mawrion yma yn cael rhyw ysgariaeth,