Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/212

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ond ar y cyfan meddwl yr wyf fi ein bod ni y tlodion yn byw yn fwy cysurus na hwynt.

Y mae llawer iawn o gysylltiadau yn y byd yma i'w gweled rhwng gweithredoedd Duw. Y mae rhai o'i greaduriaid yn wahanol ddosbarthiadau, ond y mae rhyw link i'w cysylltu wrth eu gilydd i'w chanfod o hyd. Y mae y pysg yn y môr yn ddosbarth pur wahanol i greaduriaid y tir sych; ond y mae ychydig o greaduriaid a fedrant fyw yn y dwfr ac ar y tir sych; deuant allan o'r môr yn heigiau, a byddant byw ar y làn am dipyn. Y mae rhyw wahaniaeth mawr rhwng adar a physgod, ond y mae rhai o'r pysgod yn gallu ehedeg am amser, ac y mae llawer o'r adar yn gallu nofio gyda hyfrydwch, ac yn gallu byw yn mhell oddiwrth y làn am hir amser.

Y mae distance go fawr rhwng y bwystfilod a'r adar, ond y mae yma gysylltiad rhwng y rhai hyn. Y mae yr ystlum yn gallu ehedeg. Y mae yn debyg i'r aderyn ac i'r llygoden, yn link rhwng dau ddosbarth, felly hefyd y mae gwahaniaeth mawr iawn rhwng yr angel a'r anifail. Y mae yr angel yn greadur uchel dysglaer, heb gnawd ac esgyrn, fel y gwelwn fod gan yr anifail. Y mae yma ddistance pur fawr, ond y link sydd yn cysylltu yma ydych chwi eich hunain—dyn: o herwydd y mae ganddo gorff tebyg i'r anifail o ran llawer o bethau, a galluoedd rhesymol tebyg i'r angel. Y mae yr anifail a'r angel fel yma wedi cyfarfod yn y dyn; a chan fod dyn yn meddu ar gnawd ac esgyrn, y mae yn bur gyfaddas i wneyd gwas o'r anifail. Y mae dynion wedi bod yn siarad lawer gwaith â'r angelion, ac yn gallu gwneyd yn bur hapus nes i'r neges gael ei darfod. Y mae y Duw mawr ei hunan wedi rhyw nesâu yn rhyfedd at ddyn, yn mherson ei anwyl Fab. Y Cyfryngwr mawr ydyw y link sydd yn cysylltu yn y fan yma, o herwydd y mae ganddo natur ddynol yr un fath yn union a'n natur ninau, a natur Ddwyfol yr un fath a'r Tad a'r Ysbryd Glân. Cewch mai un mawr iawn ydyw ein Creawdwr. Pe bae'ch yn meddwl llawer am y Duw mawr, collech y gwahaniaeth sydd rhwng y naill ddyn a'r llall, wrth i chwi ystyried y gwahaniaeth sydd rhwng yr uchaf—Duw, a dyn. Uchaf y rhaid iddo fod, o herwydd rhaid fod y gwneuthurwr yn anfeidrol uchel, uwchlaw y gwneuthuredig.

Rhaid fod gwahaniaeth anfeidrol rhwng dyn a dim fedr