Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/213

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ingenuity dyn wneyd. Dywedir fod dyn wedi gwneyd watch yn llygad modrwy y frenhines, ond nid oedd hono yn ddim byd at y dyn a'i gwnaeth; felly hefyd y mae gwahaniaeth anfesuredig i bawb rhwng Duw a'r uchaf o'i greaduriaid. Ond y mae yn ymddangos yn dirion iawn yn y Bod goruchel chwenych codi creadur yn nes ato ei hunan nag yr oedd yn bosibl iddo ei greu. Yr oedd y natur ddynol yn nes at y Duwdod nag un natur grëedig, ond nid oes yr un natur grëedig yn un â Duw fel y mae y natur ddynol yn un â'r Ddwyfol, yn mherson yr Immanuel mawr dyma beth a gysylltodd Duw. Beth ydyw yr ymyraeth sydd yn y natur ddynol am dreio dattod yr hyn a gysylltodd Duw? Am na fedr dyn ddeall y cysylltiadau yna, y mae yn chwanog i'w dattod. Na, paid â'r direidi o dreio dattod yr hyn a gysylltodd Duw, a phaid â'r direidi o geisio cysylltu yr hyn na chysylltodd Duw. Ac os mynwch lwyddo yn eich neges mawr sydd eisieu ei wneyd cyn myned i'r byd arall, peidiwch ag ymryson â'r Hollalluog yn hyn, ond cymerwch bob peth yn y cysylltiad y mae i'w gael.

Ond heblaw ei bod fel hyn yn mhlith y creaduriaid, ac yn y greadigaeth, y mae gwirioneddau fel hyn hefyd wedi eu cysylltu. Y mae genym ni gorph o wirioneddau yn yr Ysgrythyr, ac y mae gwirioneddau y corph yma yn gysylltiedig â'u gilydd. Y mae angen y naill wirionedd ar y llall, ac ni fedrant wneyd heb eu gilydd. Y mae pob un yn ei le yn angenrheidiol. Y mae y gwirionedd, fel oen y Pasg yn yr Aipht, nid oes dim o hono i'w weddillio. Y mae arnat eisieu y gwir, a'r holl wir. Bydd cloffni yn ein crefydd, ac ni bydd yn fywyd, hebddo. Nid oes arnom eisieu dim ond gwir—y gwirionedd yn ei effaith ddaionus ar y meddwl sydd arnom ni ei eisieu yn ein siwrnai trwy y byd hwn. Y mae gwirioneddau mawr yr efengyl yn ymddangos i mi yn bârau, neu yn gyplau; y mae y naill a'r gyfer y llall, a rhyw gysylltiad rhyngddynt. Y mae cyfiawnhâd a sancteiddhâd yn wahanol; ond nid ydynt i'w gwahanu nis gallwch byth gael y naill heb y llall. Pe meddyliech mai bod yn gyfiawn yn nghyfiawnder Crist ydyw pob peth, a bod yn ddifater am sancteiddrwydd, ni bydd yn werth dim. Nid ydyw gwir sancteiddhâd i'w gael ychwaith heb gyfiawnhâd. Pe byddai y fath beth yn bod ag i ddyn gael ei sancteiddio oddiwrth ei bechodau,