Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/214

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

byddai y condemniad o herwydd yr hen bechodau yn aros ar ei berson; ac o'r ochr arall, pe byddai modd i un fyned "trwodd o farwolaeth i fywyd," ac heb gael ei sancteiddio, byddai hyny yn ei wneyd yn anhapus byth. Nis gall un Cristion byth ddyweyd wrth Gristion arall, Tydi, ffydd sydd genyt," minau sancteiddrwydd sydd genyf; na, y mae pob Cristion yn meddu y naill a'r llall. Y mae ar bob gwirionedd eisieu ei gydmar o hyd, ac er i ti wneyd cyfrif mawr o un heb wneyd cyfrif mawr o'r llall, nid wyt yn iawn yn yr un. Gwna Duw bob peth "wrth gynghor ei ewyllys ei hun." "Fy nghynghor a saif, a'm holl ewyllys a wnaf." Y mae etholedigaeth gras yn cael son am dani fel yna. Nid oes modd gwadu nad ydyw yn bod. Rhyw ystyriaethau troednoeth rhyfeddol ydyw bod heb drefn ac heb fwriadau. Y mae daioni Duw yn ymddangos yn fwy wrth ystyried ei fod wedi bwriadu hyny er tragwyddoldeb. Y mae ambell un wedi gwneyd tipyn o dda am ei fod wedi dyfod yn ei ffordd, ond y mae Duw wedi bwriadu daioni er tragwyddoldeb. Ni wnaeth Efe ddim daioni damweiniol erioed, ond y mae yr holl ddaioni a wnaeth ac a wna byth wedi ei fwriadu ganddo. Ond o'r ochr arall, y mae natur rhyddid a chyfrifoldeb dyn yn wirionedd eglur. Y mae wedi gadael ewyllys ei greadur yn rhydd; nid ydyw ei arfaeth yn rheol i ti, ac nid oes eisieu ei bod; yr wyt yn gyfrifol i Dduw mewn ffordd uniawn a theg, ac nid elli fod yn gyfrifol heb fod felly. Y mae yn rhaid i ddyn fod yn berchen deall, ac ewyllys, a hono yn rhydd, i fod yn gyfrifol. Y mae y Beibl yn gosod hyny allan yn ei waith yn dangos y gosodir dyn ger bron brawdle Crist," ac y derbynir yn y corph "yn ol yr hyn a wnaeth, pa un bynag fyddo ai da ai drwg." Y mae yn dyweyd y gelwir ni "i farn am hyn oll." Nid ydyw cadernid arfaeth y Duw anfeidrol yn lleihau dim ar dy ryddid di fel creadur rhesymol. Y mae y cyntaf yn wirionedd, ac y mae y llall yn wirionedd hefyd. Y mae holl wirioneddau y gair eisieu y naill y llall. Y mae ar athrawiaeth y Drindod eisieu athrawiaeth yr Undod, onide aiff y Drindod yn dri Duw. Felly y mae athrawiaeth Undod y Duwdod yn sefyll mewn angen am athrawiaeth y Drindod, ynte rhaid i chwi wadu y Gair. Os wyt am y fantais o honynt, derbyn y naill fel y llall. "Nid trwy fara yn unig y bydd