Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/215

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

byw dyn, ond trwy bob gair a ddaw allan o enau Duw."

Y mae bendithion yr iachawdwriaeth yn dibynu ar eu gilydd fel y mae athrawiaethau yr efengyl. Y mae maddeuant pechodau yn un o'r bendithion, ond mor wir a hyny nid oes maddeuant pechodau i neb heb "gyfran yn mhlith y rhai a sancteiddiwyd." Y mae "edifeirwch tuag at Dduw " yr un fath a "ffydd tuag at ein Harglwydd Iesu Grist" yn angenrheidiol. A phan y mae y meddwl yn dyfod i wneyd derbyniad o'r gwirionedd "megys y mae yn yr Iesu," y mae bob amser yn dyfod i mewn gyda'u gilydd. Os myni di edifeirwch, os gweli fod yn dda, tro dy wyneb i edrych ar ddaioni Duw, ar uniondeb a daioni ei gyfraith, yspïa i mewn i ddrwg pechod fel y mae yn y byd ac yn dy galon di dy hunan,—os myni edrych i mewn i'r pethau yna, a dyfod i alaru am dano, myn Duw roddi maddeuant i ti yn nglŷn â hwynt. Y mae dynolryw yn aml yn croesawu y naill heb y Hall. Y maent yn barod i ddyweyd eu bod yn dipyn o bechaduriaid, ac ni dda gan neb mor gosp; ond beth sydd am hyny? Wel, o herwydd hyny y mae dyn yn hoffi cael maddeuant i ochel y gosp. Nid oes mo bawb yn hoffi y peth sydd yn nglŷn—nid ydym yn hoffi ymostwng, ond dyna y gwirionedd, nid â y ddwy fendith yma ond gyda'u gilydd. Ni buasai yn deilwng i Dduw faddeu i'r edifeiriol ond mewn iawn, ond nid ydyw yn deilwng iddo faddeu i'r un pechadur heb iawn, ac ni chai edifarhau byth heb faddeuant.

Dyna fel y mae y moddion yn gyffredin, y mae gras y moddion a modion gras wedi eu cysylltu â'u gilydd. Y maent wedi eu cysylltu allan o'n golwg ni; ond pan welwch bechadur yn dyfod i ddysgwyl wrth yr Arglwydd am ras trwy y moddion, cewch weled yn fuan na chaiff ddisgwyl yn ofer.

Y mae eisieu gwylio a gweddïo, a darllen a myfyrio, defnyddio y gair, a gweddïo am Yspryd Duw; nid y gair heb yr Yspryd, na'r Yspryd heb y gair.

Y mae Duw wedi cysylltu rhinwedd â'i wobr, a phechod â'i gosp. Ni chai wneyd dim drosto yn y byd yma na bydd yn siwr o'th wobrwyo. Gallai fod y duwiolion yn gwneyd tipyn dros Dduw yn eu dydd a'u tymor heb feddwl llawer am y wobr; ond pe mynent wneyd llawer