Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/216

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dros Dduw, ac heb feddwl dim am y wobr, ni chânt ddim bod felly, mae Duw yn "wobrwywr," fel y dywed y prydydd,

"Mae arnaf eisieu zel
A chariad at dy waith,
Ac nid rhag ofn y gosb a ddêl.
Nac am y wobr chwaith.'

Ond y mae Duw yn anfeidrol anrhydeddus. Edrychwch ar yr Arglwydd Iesu Grist ei hunan. Y mae Duw wedi penderfynu gwobrwyo gwir rinwedd a weithredir, yn y byd yma. Y mae pechod a chosp wedi eu cysylltu yn y fath fodd fel nad oes modd eu dattod. Gellir dyweyd fod rhinwedd yn rhyw lun o wobr iddo ei hun; y mae pechod hefyd yn rhyw lun o gosp iddo ei hunan. Pe buasai y Duw mawr ddim ond yn troi dyn i uffern, a gadael rhwng y dyn a'i gosp, byddai yn gosp fwy nag y gallwn ni ei hamgyffred. Y mae drwg a'i ganlyniadau yn anwahanol. Y mae yn anmhosibl, ar ryw olwg, i Hollalluowgrwydd wneyd dyn yn ddedwydd yn ei bechod. Yr unig ffordd i wneyd y meddw yn ddedwydd ydyw ei wneyd yn sobr, ac onide bydd ei bechod ei hun yn ei gospi, a'i wrthdro yn ei geryddu.

Y mae gras a gogoniant hefyd wedi eu cysylltu. Y mae pethau i'w cael yn y byd yma sydd wedi eu cysylltu yn y byd arall â sefyllfa o ogoniant. "Yr Arglwydd a rydd ras a gogoniant; ni attal Efe ddim daioni oddiwrth y rhai a rodiant yn berffaith." Beth bynag ydyw y daioni mawr sydd yn y nef,—pa beth bynag ydyw y daioni sydd yn cael ei fwynhau gan drigolion y ddinas lle na ddywed y preswylwyr, "Claf ydwyf "—y mae sancteiddrwydd a hapusrwydd, yn ol natur pethau, ac yn ol ewyllys Duw, wedi eu cysylltu â'u gilydd; ac nid oes neb fedr eu hysgar. Y mae holl drefn yr efengyl felly. Y mae efengyl gras Duw, a'r ddeddf a roddes efe i fil o genedlaethau,"—y mae y naill yn cydfyned â'r llall yn hollol. Pe dygit ti fawr zel dros yr efengyl, ac yn ddisylw o'r gorchymyn, ni wnai y tro. Y mae holl fendithion yr efengyl i'w cael yn y cysylltiadau y mae Duw yn eu dwyn iddo yn ei air sanctaidd. Y mae holl fendithion yr efengyl fel y clo a'r agoriad yn bârau hefo eu gilydd; ac os myni y par, y mae i ti gan' croesaw o