Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/22

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oedd yn myned gyda'r ddau, yn hogyn bychan yn llaw ei dad-fod oediad cosp fygythiol y fam yn dra nodwedd- iadol o dynerwch ei mab mewn cylchoedd eangach.' Byddai yntau ei hun yn barnu iddo dderbyn y pwyll a'r arafwch oedd yn ei feddu, yn nghyda'r parodrwydd i gyd- ymdeimlo â rhai mewn cyfyngder a chaledi, oddiwrth ei fam, yr hon oedd wraig dosturiol a meddylgar. Ac adroddai yr hanesyn canlynol i ddangos hyny:- Digwyddodd i wraig o'r gymydogaeth ddyfod i'r tŷ at fy mam, a chwynai o herwydd ei hamgylchiadau isel; ond dangosai eiddigedd wrth ganfod teulu arall, heb fod yn mhell, yn glyd eu trigfan. O,' meddai fy mam wrth y wraig gwynfanus, 'y mae yn debyg mai doethach i ni fyned i'r Ys-ll-n i farnu ein hamgylchiadau nag i E-th-n-f-y-dd." Yr oedd y sylw hwn yn llawn synwyr, oblegid y mae yn llawer mwy priodol i ni fyned i farnu ein hamgylchiadau wrth ein hisradd nag wrth ein huwchradd.

Yn mhen yr wyth mlynedd ar ol colli ei fam bu ei dad farw, ac felly gadawyd ef, yn ei bymthegfed flwyddyn o'i oedran, yn fachgen amddifad o dad a mam. Y mae yr adeg hon ar oes yn ddechreuad cyfnod peryglus; a diau y gall y rhai hyny sydd wedi dinystrio cysuron bywyd, trwy fyw yn afradlon, olrhain eu dinystr i'r camrau gwyrgam a gymerasant pan o bymtheg ugain oed. Beth bynag ydyw maint yr anfanteision sydd mewn colli gofal mam dyner, a chynghorion tad doeth, cafodd Richard Hum- phreys eu profi hwynt oll. Collodd eu haddysg dda, eu hesiampl rhinweddol, yn nghyda'u gweddiau taerion drosto. Ond nid yw Duw yn tori bylchau mewn teuluoedd heb fod yn barod i lenwi yr adwy ei hunan; a chafodd y bachgen Richard ef yn "Dad yr amddifad," yn ol ei addewid.

Trwy fod y teulu yn dda allan o ran pethau y byd, cafodd Richard yr ysgolion cartrefol goreu oedd i'w cael y pryd hwnw; a bu am beth amser yn yr Amwythig yn yr ysgol, ond nid hysbyswyd ni pa hyd. Daeth trwy hyn yn gydnabyddus yn ieuango a'r iaith Saesneg, fel ag yr oedd yn gallu ei darllen, ei hysgrifenu, a'i siarad yn rhwydd; a chlywsom ef fwy nag unwaith yn pregethu yn yr "iaith agosaf atom." Byddai rhai o'r crach-feirniaid gorddysgedig yn ceisio dyweyd y byddai yn siarad Saesneg