yn rhy Gymreigaidd; ond yr oedd ef yn rhy fawr i sylwi ar y pethau bychain. Trwy ei fod o duedd fyfyrgar, ac yn ymroddi at ei wersi, yr oedd y plant oedd yn gyd-ysgoleigion ag ef yn meddwl nad oedd mor galled a hwy. Gofynai un o'i hen gyfoedion iddo, "Sut y mae hyn yn bod, Richard Humphreys? Nid oeddym ni yn eich ystyried chwi mor galled a ni pan oeddym yn blant, ond erbyn hyn dyma chwi wedi myned o'n blaen yn mhell." "Oni wyddost ti, Morris," ebai yntau, "fod pob llysieuyn mawr yn cymeryd mwy o amser i ymagor." Er mai o ddigrifwch y dywedodd hyn am dano ei hunan, ni ddywedwyd erioed well gwir. Llysieuyn mawr mewn gwirionedd ydoedd.
Wedi marw ei dad syrthiodd gofal y fferm yn gwbl arno ef; a daeth yn fuan i gael ei ystyried yn amaethwr da. Ei hoff waith ar y fferm ydoedd trin y tir-ei sychu, ei arloesi, a gwneuthur cloddiau o'i hamgylch; ac y mae yr olwg drefnus sydd ar gloddiau a chaeau y Faeldref heddyw yn ffrwyth llafur ei ddwylaw—ef. Yr oedd yn gallu troi ei law at bob gwaith coed a cherig. Yr oedd mor hoff o saernïo fel ag y byddai ar adegau yn cymeryd tai i'w hadeiladu, a gallai weithio gyda'r crefftwyr ar bob rhan o honynt; ac yr oedd y medrusrwydd hwn yn fanteisiol iawn iddo fel amaethwr. Nid oedd mor fedrus gyda phrynu a gwerthu anifeiliaid; a byddai yn galw am help rhai o'i gymydogion at hyny. Trwy yr hyn a adawyd iddo gan ei dad, ei ymdrech ei hun, a bendith y nefoedd ar ei lafur, llwyddodd i gadw cartref cysurus iddo ei hunan, yn ngyda'i frawd a'i ddwy chwaer, tra y buont gydag ef.
Nid oedd yn proffesu crefydd am y rhan gyntaf o'i oes; etto yr oedd yn dra ystyriol o'i gyfrifoldeb fel penteulu, er mai dyn ieuange ydoedd. Wrth weled ei weision, a gweision cymydog iddo, yn gwneuthur llawer o bethau nad oedd rydd eu gwneuthur ar y Sabboth, galwodd gyda'u meistr, yr hwn, fel yntau, oedd heb fod yn proffesu, a dywedai wrtho, "Y mae cyfrifoldeb mawr arnom ein dau, fel penau teuluoedd, a dylem gadw gwell llywodraeth ar ein gwasanaethyddion ar ddydd yr Arglwydd;" a bu yr awgrymiad yn lles mawr. Adwaenem un dyn o'r enw Richard Griffith, yr hwn a fu yn ei wasanaeth pan yn fachgen lled ieuangc, a digwyddodd fyned adref unwaith