Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/24

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn feddw. Aeth ei feistr ag ef i "dir neillduaeth," ac yno "nid arbedodd y wialen." Nid oedd Richard Griffith, mwy nag ereill, yn gweled y cerydd dros y pryd hwnw yn hyfryd, ond yn anhyfryd; er hyny, diau fod yr oruchwyliaeth hon yn un o'r rhai mwyaf bendithiol a gymmwyswyd at ei ddyn oddiallan erioed; ac nid oes neb a wyr pa faint o bethau blinderus a chwerw yn ei yrfa a ragflaenwyd trwy gerydd caredig, ond llym, ei feistr. Bob amser y cyfarfyddai yr hen feistr y gwas hwn, y peth cyntaf a ddywedai fyddai,—

"Fe wnaeth y gwrfa hono les i ti onido, Richard?"

"Do, Mr. Humphreys," fyddai ateb Richard Griffith bob amser.

Buasai moesoldeb ein gwlad yn llawer uwch pe buasai mwy o ffermwyr Cymru yn ei efelychu [trwy roddi 'gwialen i gefn yr ynfydion a ddigwyddai fyned i'w gwasanaeth].